Cafodd dau fyfyriwr o Wright Robinson Sports College ym Manceinion fynediad egsglwsif i'r Bathdy Brenhinol yng Nghymru fel gohebyddion Supporter 2 Reporter!
Supporter 2 Reporter a Wright Robinson yn gweld hanes yn cael ei greu!
17 Chw 2010
Teithiodd myfyrwyr blwyddyn 7 o Wright Robinson Sports College ym Manceinion i Lantrisant ger Caerdydd i ymweld â‘r Bathdy Brenhinol i weld enillydd y gystadleuaeth, Theo Crutchley-Mack yn taro’r darn 50c ceiniog cyntaf gyda’i ddyluniad ef arno!
Cynigiwyd y cyfle hwn i Wright Robinson, sy’n aelod o rwydwaith Bydd Barod i ddewis dau fyfyriwr i ymuno â Theo ar y diwrnod cyffrous hwn fel gwobr rhwydwaith Bydd Barod egsglwsif.
Bu Jubril ac Aimee yn dystion i ddarn o hanes yn cael ei greu wrth iddynt ffilmio a chyfweld â Theo, ei deulu, a’r rhai hynny sy’n ymwneud â chynhyrchu ei ddarn arian.
Cawsant hyfforddiant arbenigol gan Supporter 2 Reporter cyn ac yn ystod y dydd, a buont hefyd yn gweithio gyda’i gilydd yn golygu’r adroddiad terfynol. Ewch i weld eu hadroddiad ffilm rhagorol a chanfod faint o ffeithiau ceiniogau cŵl a allwch eu cofio ar y diwedd!













