Mae adidas, trwy gyfrwng yr Her GTPM diweddaraf, yn herio myfyrwyr i ddylunio maneg wlyb ar gyfer ei defnyddio mewn chwaraeon dŵr!
Lansio'r Her GTPM newydd!
25 Chw 2010
Cafodd James Cracknell gwmni myfyrwyr yn Eton Dorney, lleoliad rhwyfo Llundain 2012, am wers rwyfo arbennig i nodi lansio Her GTPM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) newydd!
Gofynnir i fyfyrwyr gynllunio maneg wlyb ar gyfer ei defnyddio mewn chwaraeon dŵr megis canŵio, hwylio a rhwyfo.
Mae myfyrwyr yn ffurfio timau i ystyried yr wybodaeth a ddarperir gan arbenigwyr adidas, ac yn meddwl am ddyluniad y bydd yn rhaid iddynt ei brofi a’i addasu os bydd angen. Ac wrth gwrs, dylent ddangos eu bod yn byw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd drwy gydol y broses!
Gallai’r dyluniad llwyddiannus gyrraedd y cam prototeip gyda adidas, ac mae gwobrau eraill yn cynnwys treulio’r diwrnod gydag Olympiad, a’r offer chwaraeon adidas diweddaraf!













