• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

GreenZone yn ymuno â'r rhwydwaith!
3 Chw 2010

Mae’r GreenZone yn Wythenshawe, Manceinion wedi dod yn aelod o rwydwaith Bydd Barod ac wedi derbyn ei blac a’i dystysgrif i nodi ei lwyddiant mewn digwyddiad arbennig yr wythnos diwethaf.

Cymerodd myfyrwyr ran mewn sesiwn ffitrwydd chwaraeon Olympaidd dan arweiniad hyfforddwyr proffesiynol, gwaith Rhifedd a Gwyddoniaeth gan ddefnyddio adnoddau Bydd Barod am Gemau’r Gaeaf, a barddoniaeth yn seiliedig ar Benderfyniad, sy’n un o’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, a daeth y cyfan i ben gyda fforwm yng nghwmni Mr Beeton ac yntau’n ateb cwestiynau gan y myfyrwyr ynglŷn â Gemau Llundain 2012.

Hefyd, cymerodd y plant ran mewn digwyddiad hwyliog ‘Herio’r Athletwr’ gyda’r darpar Olympiad o Sale Harriers, Andy Robertson yn cael ei roi ar brawf ar SportWall GreenZone, nodwedd sy’n profi’r atgyrchion ac sy’n anelu at weithio’r corff a’r ymenydd.

Mae myfyrwyr o Willows Primary, St Anthony’s RC Primary a Manchester Health Academy ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn rhaglen ar ôl ysgol dros 10 wythnos o’r enw Playing for Success sy’n anelu at ddefnyddio technoleg chwaraeon a chyfrifiaduron i helpu i gynyddu hyder a dyheadau plant fel eu bod yn frwydfrydig i ddysgu ac i wireddu eu gwir botensial.

Mae PfS yn cynnal rhaglen waddol genedlaethol Olympaidd a Pharalympaidd 2012 o’r enw ‘Pass it On’. Mae’r prosiect wedi derbyn Nod Ysbrydoli Llundain 2012 ac yn anelu at uchafu’r lles addysgol a’r cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i bobl ifanc drwy Llundain 2012 a Bydd Barod.

Dewch i ddarganfod mwy