Theo Crutchley-Mack, 16 oed, yn creu hanes wrth i'w ddarn 50c ag arno seiclwr yn rasio mewn felodrom gael ei ddewis gan y Bathdy Brenhinol!
Disgybl o Sir Efrog yn ennill cystadleuaeth ddylunio Llundain 2012
9 Chw 2010
Curodd Theo Crutchley-Mack dros 3,000 o gystadleuwyr eraill yn y gystadleuaeth ar gyfer ysgolion uwchradd y DU gyda’i ddyluniad sy’n dangos seiclwr yn rasio beic mewn Felodrom. Ef yw’r person cyntaf erioed yn ei arddegau i ddylunio darn arian Prydeinig.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth fel rhan o strand ‘Diwylliant a Chreadigrwydd ‘ Bydd Barod.
Ynglŷn â‘i lwyddiant, dywedodd Theo: “Rydw i dal mewn sioc. Rwy’n meddwl bod angen mwy o amser arnaf iddo suddo i mewn. Mae dychmygu y bydd fy nyluniad darn arian i yn nwylo pawb yn anghredadwy. Rwyf newydd orffen fy ffug arholiadau TGAU ac mae’n drueni nad oeddwn yn gwybod am hyn yn gynharach – byswn wedi gallu defnyddio fy nyluniad darn arian fel rhan o fy ngwaith cwrs celfyddyd TGAU! Rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at ymweld â‘r Bathdy Brenhinol yr wythnos nesaf i gael gweld fy narn arian yn cael ei gynhyrchu.”
Dave Knight, Cyfarwyddwr Darnau Arian Coffa’r Bathdy Brenhinol, gyhoeddodd yr enillydd mewn gwasanaeth sypreis yn ysgol Theo, Rishworth School yn Halifax.
Dywedodd Mr Knight: ‘Mae Theo yn llawn angerdd tuag at seiclo ac amlygwyd hynny yn ei ddyluniad. Roedd y beirniaid wedi eu plesio gan y teimlad o gyflymder, drama a chyffro a lwyddodd i’w gyfleu yn ei waith.’
Mae creadigaeth Theo yn ail mewn cyfres o 29 o ddarnau arian coffa 50c Llundain 2012 a drwyddedwyd yn swyddogol, a ddylunir gan aelodau’r cyhoedd fel coffa parhaol am Gemau Llundain 2012. Mae pob darn arian yn y gyfres yn darlunio gwahanol chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, ac fe ddatguddir y 27 darn arall yn Hydref 2010.
Bydd dyluniad seiclo Theo i’w weld ar filiynau o ddarnau 50c ym mhocedi pobl o fis Medi eleni, pan gaiff cyfres 50c Llundain 2012 y Bathdy Brenhinol eu rhyddhau.













