• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Adnoddau newydd ar SmallSteps4Life!
2 Chw 2010

Heddiw, lansiodd SmallSteps4Life adnoddau newydd i athrawon a phobl ifanc, i’w rhoi ar waith gyda’u sialensau SmallSteps4Life!

Amcan y fenter newydd hon yw cefnogi pobl ifanc i wella eu iechyd a’u lles trwy osod sialensau cyraeddadwy iddyn nhw’u hunain i fod yn egnïol, bwyta’n dda a theimlo’n dda. Gall myfyrwyr ymgymryd â‘r sialensau ar eu pennau eu hunain, gyda’u ffrindiau neu fel dosbarth.

Os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch, ceir neges ysbrydoledig arbennig ar wefan SmallSteps4Life gan enillydd dwy fedal aur Olympaidd a Llysgennad Cynaladwyedd Llundain 2012, James Cracknell!

Mae SmallSteps4Life yn rhan o strand ffyrdd o fyw’n iach ac egnïol Bydd Barod, ac mae’n fordd arall wych o fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd o ran cyfeillgarwch, rhagoriaeth a pharch a’r Gwerthoedd Paralympaidd o ran dewrder, penderfyniad, cydraddoldeb ac ysbrydoliaeth yn eich ysgol!

Dewch i ddarganfod mwy