Pob mis, caiff ysgol neu goleg gwahanol sy'n rhan o rwydwaith Bydd Barod ei dewis am fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac am eu dathlu mewn ffyrdd dyfeisgar a chreadigol.
Mae 'Coleg y mis Rhwydwaith Bydd Barod' wedi cael ei gyhoeddi!
15 Rha 2010
‘Coleg y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ mis Rhagfyr yw …Warwickshire College yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr!
Yma yn Warwickshire College rydym yn falch o fod yn aelod o rwydwaith Bydd Barod, yn hyrwyddo’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac yn amcanu at eu hadlewyrchu yng ngweithgareddau ein coleg. Rydym yn creu gwaddol fydd yn parhau ymhell y tu hwnt i’r Gemau eu hunain ac a fydd yn dod yn rhan annatod o fywyd parhaus y coleg.
Mae Warwickshire College wedi ymrwymo’i hun i ragoriaeth mewn chwaraeon, gydag andoddau newydd yn Rugby a Henley-in-Arden a chwrs ‘Perfformiad a Rhagoriaeth Chwaraeon’. Mae’r coleg yn sicrhau cyfle i bawb gyda rhaglen gweithgareddau sy’n annog y rhai hynny na fyddent fel rheol yn ystyried eu hunain yn rhan o’r byd chwaraeon i roi cynnig ar ystod o wahanol weithgareddau corfforol.
Mae Warwickshire College yn falch o fod y coleg AG cyntaf yn y wlad i gael ei gydnabod fel ‘Coleg y Mis’ gan rwydwaith Bydd Barod.
Cafodd y coleg ei ddewis o ganlyniad i’w postiau blog rhagorol oedd yn arddangos eu murlun a ysbrydolwyd gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Crewyd y murulun gan fyfyrwyr ar y cwrs Diploma Rhagarweiniol mewn Celfyddyd, Dylunio a Chyfryngau. Bu i bedwar ar ddeg o fyfyrwyr gynllunio, datblygu a phaentio’r murlun, sydd yn cynrychioli nifer o wahanol ddylanwadau chwaraeon a diwylliannol sy’n adlewyrchu bywyd ar y daith i Gemau 2012. Mae’n ffordd greadigol o ddangos yr hyn mae’r Gemau yn ei olygu i fyfyrwy Warwickshire College ac mae’n llawn bywyd a lliw.
Roedd Lauren Matthews, 17, yn un o’r rhai oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r murlun. Dywedodd: “Ddaru ni gynnwys nifer o eiconau Prydain a’r Gemau, megis y trên yn teithio i Lundain. Roedd y prosiect yn ein helpu i weithio fel tîm ac i goncro heriau – megis sut i greu gwaith celf mor fawr! Rwyf wedi datblygu fy hyder a fy ngallu i weithio mewn tîm o ganlyniad i greu y murlun hwn ac rwy’n teimlo’n falch iawn.”
Mae gweithgareddau’r coleg sydd i ddod yn cynnwys wythnosau ar thema Olympaidd a Pharalympaidd ac arddangosfa ffasiwn Olympaidd a Pharalympaidd.
Bydd y coleg yn derbyn ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion a llythyr o longyfarchiadau gan Seb Coe.
Os hoffech fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!
Gwnewch gais nawr













