Cafodd myfyrwyr Cornwall College ymweliad arbennig gan Wenlock, masgot Llundain 2012, i nodi achlysur y Coleg yn ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.
Cornwall College yn cyfarfod â Wenlock!
15 Rha 2010
Cornwall College yw’r 50ed coleg yn y DU i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod. Hwn hefyd yw’r coleg pellaf o’r Stadiwm Olympaidd sy’n rhan o rwydwaith Bydd Barod, sy’n profi bod cyffro ac ethos Llundain 2012 yn ymestyn ar hyd a lled y wlad!
Dywedodd Yr Arglwydd Sebastian Coe, cadeirydd Llundain 2012: “Rwyf yn falch o groesawu Cornwall College i rwydwaith Bydd Barod am eu gwaith cyffrous ynglŷn â‘r gwerthoedd Olympaidd o gyfeillgarwch, rhagoriaeth a pharch a’r Gwerthoedd Paralympaidd o ysbrydoliaeth, dewrder, penderfyniad a chydraddoldeb.”
Cyflwynwyd plac rhwydwaith Bydd Barod i’r coleg gan Wenlock, masgot swyddogol Llundain 2012.
Dywedodd Russell Lawrence, Cyfarwyddwr Chwaraeon Cornwall College: “Rydym yn defnyddio Gemau 2012 i ysbrydoli ein myfyrwyr a’n staff a’n partneriaid mewn ysgolion eraill i fod yn rhan o’r cyffro. Mae’r rhaglen yn rhoi i ni gyfle i ddathlu natur unigryw Cernyw, ei diwylliant a’i hamgylchedd ac rydym yn defnyddio’r gwerthoedd Olympaidd i annog myfyrwyr i fyw yn ôl delfrydau o ymdrechu a bod y gorau y gallant fod.
Dywedodd Dave Linnell, Pennaeth Cornwall College: “Mae’n wych bod yr ethos hwn wedi cael cydnabyddiaeth a bod y coleg wedi gallu dod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod.”
Dewch i ddarganfod mwy am fuddion ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.













