Pam na wnewch chi ymuno â'r bobl ifanc hyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon a derbyn her SmallSteps4Life yr hydref hwn?
Mae pobl ifanc yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cymryd eu SmallSteps4Life!
6 Aws 2010
Trwy xl clubs gan The Prince’s Trust, mae chwe ysgol yn yr Alban a phum ysgol yng Ngogledd Iwerddon yn cymryd rhan mewn cynllun peilot fydd yn amcanu at gael y bobl ifanc anodda i’w cyrraedd i ymgymryd â heriau SmallSteps4Life fydd yn ymwneud â bod yn egnïol, bwyta’n dda a theimlo’n dda.
Mae Smallsteps4life yn arwain strand Ffyrdd o fyw’n iach ac egnïol Bydd Barod + ac fe’i cydnabyddir fel prosiect neilltuol dda, trwy raglen Ysbrydoli. Mae SmallSteps4Life yn cefnogi Change 4Life a bydd yn helpu i gyflwyno gwaddol barhaus y Gemau y tu hwnt i 2012.
Gwedd bwysig o SmallSteps4Life yw gwaith targedu, trwy sefydliadau dewisiedig nad ydynt yn rhan o’r Llywodraeth, gyda phobl ifanc sy’n agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu hanwybyddu neu sydd y tu allan i addysg prif lif Bydd y gwaith hwn yn archwilio gyda phwrpas sut all SmallSteps4Life weithio gyda’r grwpiau hyn o bobl ifanc. Bydd y sefydliadau sydd mewn partneriaeth â‘r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnwys – The Prince’s Trust, Fairbridge West, Continyou a The National Organisation for Pupil Referral Units in England
Mae The Prince’s Trust yn gweithio gyda’r plant anodda i’w cyrraedd trwy xl clubs sydd wedi eu sefydlu mewn ysgolion, yn aml mewn ardaloedd difreintiedig, mannau addysgool tu allan i brif ffrwd (Unedau Cyfeirio Disgyblion a Sefydliadau Troseddwyr Ifanc), ysgolion sy’n derbyn canlyniadau TGAU ac adroddiadau OFSTED gwael, ac ysgolion a ystyrir gan y llywodraeth fel rhai sy’n wynebu lefelau uchel o ymddygiad heriol.
Mae xl clubs yn ail-sbarduno rhai 14-16 oed sydd mewn perygl o driwanta, diarddel neu dangyflawni ac yn galluogi pobl ifanc i ganfod eu potensial eu hunain mewn awyrgylch anffurfiol sy’n eu hannog i gymryd cyfrifoldeb dros eu haddysg a’u datblygiad eu hunain.
Mewn chwe ysgol yn Yr Alban a phum ysgol yng Ngogledd Iwerddon, bydd pobl ifanc yn cael mynediad at a defnydd o’r deunyddiau a ddarperir drwy wefan SmallSteps4Life a byddant yn sbarduno ac yn herio’u hunain i fwyta’n dda, bod yn egnïol a theimlo’n dda, yn ystod y tymor newydd.
Er enghraifft, yn Hazelwood xl club yn Belfast mae pobl ifanc wedi bod yn ystyried ffyrdd o wella deiet aelodau’r clwb. Gyda thrafodaeth am ddeiet iach fel canolbwynt, gofynwyd i’r holl bobl ifanc ddod â phapurau unrhyw fyrbrydau yr oeddent wedi eu bwyta. Yna treuliodd y grŵp ychydig o amser yn edrych ar beth a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r byrbryd, yn cynnwys y braster, siwgrau a halen. Yr her a osodwyd iddynt eu hunain oedd ceisio newid eu byrbryd ar gyfer yr wythnos ddilynol.
Dywedodd un aelod o’r grŵp ei bod wedi cael eu synnu gan yr hyn oedd yn gynwysiedig yn ei byrbryd gan ei bod yn credu ei bod yn bwyta ‘byrbryd iach honedig’.
Felly, os nad ydych wedi cofrestru gyda SmallSteps4Life hyd yma, am beth ydych yn ei ddisgwyl?













