• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Mae Gemau Olympaidd Ieuenctid Singapore wedi cychwyn!
20 Aws 2010

Cychwynodd Gemau Ieuenctid Singapore yn swyddogol ar 14 Awst!

Cyrhaeddodd y Fflam Olympaidd Ieuenctid Brifysgol Genedlaethol Singapore rai dyddiau ynghynt ar gyfer Dathliad Dyfodiad y Fflam lle bu 750 o berfformwyr yn llwyfanu sioe drawiadol gyda gorymdaith fflôt a thân gwyllt syfrdanol. Yna, gadawodd y fflam unwaith eto ar gyfer ei thaith gyfnewid 6 diwrnod – y gyntaf erioed yn Singapore – gyda 2,400 o garwyr tortsh yn cymryd rhan. Cynhaliwyd y diweddglo mawreddog yn Promotory@Marina Bay lle cafodd y cyhoedd weld y crochan yn cael ei gynnau ac amser gwych yn y noson o ddathlu.
Mae dros 5,000 o athletwyr a swyddogion wedi cyrraedd y Pentref Olympaidd Ieuenctid fydd yn ganolfan iddynt drwy gydol 12 diwrnod y Gemau. Cynhaliwyd y Seremoni Agor ar y 14eg yn Float@Marina Bay, ffrwyth llafur gweithlu o dros 550 a thros 750 o oriau ymarfer! Cychwynodd pethau gyda ‘Gorymdaith y Cenhedloedd’ ac agorwyd y Gemau yn swyddogol gyda’r Llw Olympaidd a thanio’r crochan gyda’r Dortsh. Cafwyd sioe ryfeddol gan berformwyr ifanc megis y bît bocsiwr Dharni, y DJ KoFlow, perfformwyr tân o Bonfire a SOKA, myfyrwyr crefft ymladd o Martial House, a drymwyr o Drumfest. Roedd y perfformwyr yn adrodd stori am ddyfalbarhad a llwyddiant Cenedl ifanc, gyda sypreisus ac effeithau arbennig, a’r cyfan yn cael ei berfformio gyda Bae Marina rhyfeddol Singapore yn gefndir trawiadol.

Mae yna nifer fawr o leoliadau cystadlu i ymweld â hwy ar yr ynys, o’r Ganolfan Hwylio Genedlaethol yn East Coast Parkway i’r Singapore Turf Riding Centre ar Arfordir y Gogledd. Cofiwch fynd i weld *Scape – y Parc Ieuenctid, Parc Sglefrio, Canolfan Ieuenctid a *Scape Field – canolfan ar gyfer gweithgareddau diwylliannol a chymunedol i’r ieuenctid. Mae yna 39 o athletwyr yn cynrychioli Prydain mewn 16 o gampau, yn cynnwys yr athletwraig Victoria Ohuruogu, y gymnastwr Sam Oldham a’r chwaraewr tennis Oliver Golding. Hyd yma mae Tîm Hoci yr Ariannin wedi rheoli eu camp, ac mae Viktoria Komova, 15, o Rwsia, wedi profi pam ei bod yn cael ei hystyried fel un o’r gymnastwyr benywaidd gorau yn y byd, gan roi perfformiad awdurdodol yn Neuadd Chwaraeon Bishan i ennill y fedal aur derfynol unigol.
Rydym yn dal i ddisgwyl clywed a fydd y deifiwr o Brydain Tom Daley yn cystadlu ar 21 Awst yn y deifio 10 a 3m – yn dilyn rhwyg posib yn y cyhyr deuben – felly croesi bysedd i’r Pencampwr Byd!
Mae pob tocyn ymlaen llaw ar gyfer pob cystadleuaeth wedi eu gwerthu bellach. Gellir prynu rhai tocynnau yn y lleoliadau ar gyfer rhai chwaraeon.
Dewch i ddarganfod mwy yma!