• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Logo addysgol newydd Llundain 2012 yn lansio rhwydwaith Bydd Barod
15 Med 2009

Dylunydd ifanc yn creu logo addysgol newydd Llundain 2012 ac yn lansio rhwydwaith Bydd Barod

Mae Reiss Evans, myfyriwr dylunio graffig ifanc o Goleg Caergaint wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i ddylunio logo addysgol newydd Llundain 2012.

The London 2012 education logo

Daeth Reiss i’r brig o blith mwy na 150 o ddylunwyr ifanc eraill o’r DU benbaladr. Ei fewnlenwad buddugol sy’n creu’r logo fydd yn cael ei roi i’r ysgolion a cholegau ar draws y DU fydd yn ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.

Dywedodd Reiss: ‘Roeddwn i eisiau creu dyluniad i bawb ac un fyddai’n berthnasol i bob ysgol neu goleg fyddai’n ymuno â rhwydwaith Bydd Barod. Dewisais bensel oherwydd bod myfyrwyr yn defnyddio pensel o’r cyfnod pan yn ifanc mewn ysgol gynradd hyd at eu gwaith yn y coleg.

Mae’r penseli yn symbol o greadigrwydd yn ysgolion y DU ac mae’r ystod o liwiau a ddefnyddiwyd yn cynrychioli natur fyd-eang Gemau Llundain 2012. Mae’r lliwiau’n sicrhau bod y logo’n drawiadol ac maent yn cyd-fynd â‘r rhai a ddefnyddiwyd yng ngwaith brandio Llundain 2012 eu hun.’

Ymunodd Jonathan Edwards, Enillydd Medal Aur Olympaidd a Tessa Jowell, Gweinidog y Gemau Olympaidd â Reiss wrth iddo ddadorchuddio’i logo newydd heddiw yn Nightingale Primary School yn Woolwich.

Nightingale Primary School yw’r ysgol gyntaf i dderbyn y logo am arddangos ymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd trwy gyfrwng eu blog Bydd Barod, gan ddod yn aelod o rwydwaith Bydd Barod – cymuned addysgol newydd arbennig Llundain 2012.

Heddiw hefyd cyhoeddwyd enwau 16 o ysgolion a cholegau eraill fel aelodau sylfaenol rhwydwaith Bydd Barod:

  • Netherhall School, Caergrawnt
  • Heath Primary, Ipswich
  • Oldham Sixth Form College, Swydd Gaerhirfryn
  • Tong School, Bradford
  • Wakefield College, Gorllewin Swydd Efrog
  • Capital City Academy, Brent, Llundain
  • Lent Rise Primary, Slough
  • Park House School, Newbury
  • Holt School, Wokingham
  • Kirkby Sports College, Lerpwl
  • North Hertfordshire College, Swydd Hertffordd
  • Willand School, Dyfnaint
  • Wright Robinson Sports College, Manceinion
  • Toll Bar Business and Enterprise College, Swydd Lincoln
  • Canterbury College, Caint

Mae’r holl ysgolion a cholegau hyn yn derbyn:

  • plac a thystysgrif yn nodi eu llwyddiannau
  • yr hawl i ddefnyddio logo Llundain 2012 ar arwydd, papur pennawd, cylchlythyr a gwefan yr ysgol
  • mynediad egsglwsif i gyfleon unigryw Llundain 2012 yn ystod y tair blynedd nesaf

Dewch i ganfod sut mae ymuno â rhwydwaith Bydd Barod