• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Gorllewin Canolbarth Lloegr yn mynd y tu ôl i'r llenni gyda Llundain 2012
13 Tach 2009

Bu hwn yn fis prysur iawn o weithgaredd Llundain 2012 yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr!

Ar ddydd Mercher 4 Tachwedd ymunodd pum cynrychiolydd o Orllewin Canolbarth Lloegr, yn cynnwys Leone Davis sydd â dyheadau Olympaidd, â Jonathan Edwards, enillydd medal Aur Olympaidd am Naid Driphlyg ac Is Gadeirydd Grŵp Cenhedloedd a Rhanbarthau Llundain 2012, am daith arbennig o gwmpas safle’r Parc Olympaidd.

Dywedodd Leone: “Roedd yn deimlad cyffrous cael gwahoddiad i ymweld â‘r Pentref Olympaidd yn Llundain a chael gweld drostaf fy hun ym mhle fydd y sioe orau yn y byd yn cael ei chynnal yn 2012…. Roedd yn demlad gwych clywed pobl yn fy nhrafod fel aelod potensial o team GB a bod pobl yn tybio y gallaf ennill medal yn y dyfodol.”

Ar Dachwedd 13 cafodd Gorllewin Canolbarth Lloegr ddogn arall o hud Llundain 2012 – y tro hwn treuliodd dau fyfyriwr o Fairfax School yn Sutton Coldfield ddiwrnod ym mywyd Paul Deighton, Prif Weithredwr Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Llundain yn ystod ei ymweliad diweddar â‘r rhanbarth.

Cafodd Stephanie Clarke (17) a Joel Reader (13) gyfle i ddilyn a chyfweld Prif Weithredwr Llundain 2012 am y diwrnod. Ymunodd eu hysgol yn ddiweddar â rhwydwaith Bydd Barod trwy ddangos ymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, ac felly cyflwynodd Paul hefyd blac a thystysgrif rhwydwaith Bydd Barod Fairfax School i Stephanie a Joel!

Dywedodd Stephanie Clarke, Blwyddyn 12: “Ar ôl heddiw dw i’n deall i’r dim nad Llundain a Chwaraeon yn unig yw’r Gemau Olympaidd – mae heddiw wedi fy ysbrydoli! Dim ond 3 blynedd ar ôl… neu 141 o ddyddiau Gwener fel y dywedai Paul mor aml…!”

Dywedodd Joel Reader, Blwyddyn 8: “Cefais amser gwych yn cyfarfod â Paul Deighton a chael golwg fanwl ar ‘weithgaredd y cyfryngau’ – ni fyddech yn credu faint nad ydych yn ei weld – roedd bod y tu ôl i’r llenni yn wych! Roedd yn anhygoel gweld pa mor ddoniol y gall dynion busnes pwysig fod – pan ddechreuodd Paul Deighton, Dave Moorcroft ac eraill chwarae pêl-law gyda grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 7 yn Alan Higgs Centre yn Coventry, roedd mor ddoniol.

“Roedd dilyn gŵr camera a gohebydd BBC Midlands Today yn brofiad da iawn iawn – gwelais sut oeddynt yn ffilmio ac yn gohebu ar yr hyn oedd yn digwydd!”

Dewch i ganfod mwy am rwydwaith Bydd Barod

Darllenwch flog Leone yn llawn
Darllenwch flog Sian a Joel yn llawn