Enillodd myfyrwyr o Fairfax School yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr y cyfle i dreulio diwrnod gyda Prif Weithredwr Llundain 2012, pan ymunodd eu hysgol â rhwydwaith Bydd Barod. Dewch i ganfod beth wnaethon nhw ei ofyn iddo.
Cyfweliad egsglwsif â Phrif Weithredwr Llundain 2012
27 Tach 2009
Enillodd myfyrwyr o Fairfax School yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr y cyfle i dreulio diwrnod gyda Prif Weithredwr Llundain 2012. Dewch i ganfod beth wnaethon nhw ei ofyn iddo!
Mae Fairfax School yn aeldo o rwydwaith Bydd Barod eu gwobr egsglwsif gyntaf oedd treulio diwrnod gyda Phennaeth Pwyllgor Trefnu Llundain 2012 pan ymwelodd â Gorllewin Canolbarth Lloegr rai wythnosau’n ôl.
Derbyniodd tîm Bydd Barod adroddiad am eu diwrnod ganddynt:
‘Am ddiwrnod anhygoel – wrth feddwl yn ôl am y bore, ar y ffordd i Great Malvern, roeddem yn teimlo braidd yn nerfus, ddim yn gwybod beth oedd o’n blaenau, beth oedd i ddod. Buom yn meddwl am ein cwestiynnau ar gyfer y cyfweliad ac am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd – rydym wedi gwneud llawer gyda nhw yn yr ysgol – collageau anferth ar wal ein neuadd – sut allwn ni eu anghofio! Beth bynnag, buom yn pendroni a fyddem yn gweld y gwerthoedd hyn yn Paul wrth i ni ei ddilyn fel cysgodion!
Roedd cael ein cyflwyno i Paul yn yr Abbey Hotel yn Great Malvern yn wych, roedd o mor hamddenol a chyfeillgar, yn gwneud i ni deimlo’n gyfforddus, felly mae’n bendant yn ticio’r blwch cyfeillgarwch! Ac roedd hynny i barhau drwy gydol y dydd pwy bynnag roedd Paul yn ei gyfarfod, roedd o mor annwyl a didwyll. Yn Great Malvern fe welsom Paul yn siarad â llond ystafell o bobl busnes, yn dweud wrthynt yn hyderus y bydd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn darparu cyfleon i fusnesau, tra’n dangos parch i’r hinsawdd economaidd presenol a’r sialensau sy’n wynebu BBaCh.
Ar ôl y cyfarfod cyntaf hwn, rhoddodd taith fer i Worcester amser i ni gwtogi ar ein cwestiynnau ar gyfer ein cyfweliad preifat gyda Paul yn ddiweddarach yn y dydd – gyda Joel â 19 o gwestiynnau posibl roedd hi’n dda o beth fod Paul wedi ateb tua 10 ohonynt yn barod yn ei araith i’r bobl BBaCh.
Roedd hi’n bleser cyfarfod â Sian ac eraill sy’n ymwneud â‘r rhaglen Canlyniad Personol Gorau – roedd yn ‘hwb positif’ cael siarad â phobl leol sydd eisiau gweithio ac sy’n gweld sgiliau gwirfoddoli fel cyfle i wireddu eu nod – rydym yn dymuno’r gorau i Sian a’r gweddill gyda’r rhaglen. Roedd siarad yn anffurfiol gyda Paul a Sian am chwaraeon llai cyfarwydd yn wych – mae Paul, gyda phenderfyniad, eisiau i bob camp gael proffil uchel yn 2012.
Erbyn i ni gyrraedd Coventry roeddym yn wirioneddol mwynhau teimlad i diwrnod – roedd hi’n wych cael bod yn rhan o entourage VIP! Yn galw yma ac acw gyda pharcio VIP!
Yn yr Alan Higgins Centre – roedd yn achlysur bendigedig derbyn ein plac a’n gwobr Rhwydwaith Bydd Barod gan Paul ei hun – teimlad ‘wow’ go iawn – ac hefyd cael gwybod mai ni oedd yr ysgol gyntaf yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr – hynod cŵl! Siaradodd Paul am ein gwaith menter rhagorol – felly rydym eisiau iddo wybod ein bod yn teimlo ei fod yn ticio’r blwch rhagoriaeth hefyd!
Nawr at ein uchafbwynt – ein cyfweliad preifat gyda Paul – roedd hyn yn anhygoel, yn ysbrydoliaeth!
Joel: Ydych yn teimlo y bydd unrhyw sgiliau a ddysgoch yn ystod eich amser yn gweithio i fanc buddsoddi yn eich helpu gyda threfnu’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd?
Paul: Bydd y prif sgiliau a ddysgais yn ystod fy amser gyda’r banc buddsoddi fydd yn sicr yn fy helpu yw arweiniad, gwaith tîm a chodi arian.
Stephanie: Pa strategaethau fyddwch yn eu defnyddio i sicrhau na fydd dim neu ddim llawer o seddi gwag?
Paul: Byddwn yn defnyddio pedair prif strategaeth:
1. Bydd tocynnau yn cael eu blaenoriaethu yn ôl diddordeb, ac os bydd nifer y prynwyr yn uwch na nifer y tocynnau byddant yn cael eu gwerthu trwy bleidlais gyhoeddus;
2. Bydd y stadiymau yn fawr iawn er mwyn dal cymaint o bobl â phosibl;
3. Bydd hyd y sesiynau yn ddigon byr fel na fydd pobl yn colli diddordeb ac yn gadael;
4. Os bydd rhywun yn gadael, yna gellir gwerthu ei docyn drachefn gan ddefnyddio dyfeisadau electronig.
Joel: Rwy’n deall i chi ddweud yn Adroddiad Blynyddol 2007-2008 LOCOG “...o greu sefydliad perfformiad uchel, cysylltiadau rhanddeiliaid effeithiol a diwylliant o ddisgyblaeth ariannol, rydym mewn sefyllfa dda i gynnal Gemau trawiadol yn 2012.” Beth yn union mae hyn yn ei olygu?
Paul: Wel…(gan edrych ar daflen Joel!)...mae sefydliad perfformiad uchel yn golygu bod LOCOG yn gyflym, effeithlon ac effeithiol iawn; mae cysylltiadau rhanddeiliaid effeithiol yn golygu bod LOCOG yn gweithio mewn cydweithrediad gyda’i randdeiliaid a’i bartneriaid; ac mae diwylliant o ddisgyblaeth ariannol yn golygu bod LOCOG yn gost effeithiol iawn…ac felly mae hynny’n arwain at Gemau 2012 trawiadol.
Stephanie: Beth fydd yn digwydd i LOCOG ar ôl Gemau 2012 a beth fydd yn digwydd i chi?
Paul: Bydd LOCOG yn dod i ben ar ôl y Gemau Olympaidd, er y byddwn yn treulio peth amser yn Rio yn ystod 2013 yn eu helpu nhw i gychwyn ar baratoadau Gemau 2016. O ran fi fy hun, af ar wyliau hir iawn…a meddwl am beth i’w wneud nesaf!
Tua diwedd y prynhawn – dangosodd Paul ddewrder – yn chwarae pêl-law yn erbyn myfyrwyr blwyddyn 7, fu’n ymarfer drwy’r dydd – a fyddai’n ennill? A fyddai’n sgorio – o na! “Roedd o ar ei liniau” fel y dywedodd gohebydd y BBC!
Diolch Paul am ein ‘gadael i mewn’! Trwy’r dydd fe welsom Paul yn trin pawb yr un fath gyda diddordeb didwyll – disgyblion, cymunedau, trefnwyr, Olympiaid megis Dave Moorcroft a Diane Modahl, a gohebwyr (yn cynnwys ni’n dau!) – Felly mae cydraddoldeb yn bwysig i chi hefyd Paul!
Rydym yn credu yn y gwerthoedd, mae ein hysgol yn sicr, ac ar treulio diwrnod fel eich cysgodion rydym yn credu eich bod chi yn byw yn ôl y gwerthoedd hefyd! Diolch yn fawr!
A diolch i chi LOCOG am brofiad unigryw na fyddwn fyth yn ei anghofio! O safbwynt newyddiadurwyr rydym yn rhyfeddu at gymaint sy’n digwydd y tu ôl i’r camera – mae’n anhygoel! Mae’r wasg a’r cyfryngau yn dangos tamaid yn unig – dyna’r cyfan!
Stephanie a Joel
Fairfax School – Tîm Menter Olympaidd













