Cafodd 40 o fyfyrwyr ysgol gynradd sy'n cymryd rhan yn y prosiect Criw Adeiladu gyfarfod Ei Mawrhydi Y Frenhines pan ymwelodd â'r Parc Olympaidd i weld y cynnydd sydd wedi digwydd ers iddi ymweld y tro diwethaf bedair blynedd yn ôl.
Criw Adeiladu'n cyfarfod Ei Mawrhydi Y Frenhines!
3 Tach 2009
Gwahoddwyd disgyblion ysgolion cynradd o’r 5 Bwrdeistref Cynnal sy’n cymryd rhan ym mhrosiect Criw Adeiladu’r Olympic Delivery Authority i’r Parc Olympaidd i gyfarfod Ei Mawrhydi Y Frenhines gan gyflwyno iddi dusw o flodau!
Ar ôl edrych ar y Stadiwm Olympaidd o blatfform ar lefel seddi uchaf y gwylwyr, cerddodd Ei Mawrhydi ar hyd rhan o’r trac 100 metr ac ar draws yr hyn fydd y llinell derfyn. Yna planodd Ei Mawrhydi y goeden gyntaf yn y Parc Olympaidd wrth ymyl y dyfrffyrdd sydd gyfagos i’r Stadiwm – helygen aeddfed a dyfwyd ym Milton Keynes, a’r gyntaf o dros 300 o goed gaiff eu plannu ar safle’r Stadiwm.
Mae’r prosiect Criw Adeiladu yn rhoi cyfle i 40 o fyfyrwyr Blwyddyn 6 o 20 o ysgolion cynradd lleol i ymweld â‘r Parc Olympaidd drwy gydol y flwyddyn i ddysgu am wahanol agweddau’r prosiect. Cânt hefyd y dasg o rannu’r wybodaeth gyda’u ffrindiau, teulu a chyfeillon dosbarth.
Yn ddiweddar maent wedi dysgu am archeoleg a hanes safle’r Parc Olympaidd, a’r mis hwn byddant yn dysgu am gynaladwyedd a’r amgylchedd mewn perthynas â‘r Parc Olympaidd.













