• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Lansio Ysbrydoliaeth Ryngwladol yn Yr Iorddonen
2 Tach 2009

Aeth Y Fonesig Tanni Grey-Thompson i’r Iorddonen i weld dylanwad Ysbrydoliaeth Ryngwladol gan weld sut mae’r prosiect yn gwella gwersi AG ysgol i bobl ifanc yn y gwersylloedd ffoaduriaid, yn rhoi grym i enethod a helpu plant anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Ar Ddiwrnod 1 o’i thaith ymwelodd Tanni â gwersyll Souf ac aeth i ysgol y Cenhedloedd Unedig i fechgyn i weld gwersi AG cynhwysol i 30 o fechgyn rhwng 6 a 9 oed. Roedd Tanni wrth ei bodd o weld bod tri o’r bechgyn, er eu bod yn anabl, yn cael eu cynnwys yng ngweithgaredd y dosbarth cyfan. Yna cafodd Tanni gyfarfod â bachgen o’r enw Mouayyed a’i deulu gan glywed pa mor bwysig oedd chwaraeon iddo. Mae ganddo uchelgais i ddilyn trywydd chwaraeon ac efallai i gystadlu’n y Gemau Paralympaidd.

Ar Ddiwrnod 2, ar ôl cymryd rhan mewn gwers AG a dawnsio gyda’r genethod o ysgol y Dywysoges Alia i enethod sydd â chysylltiad ag Ysgol Uwchradd St Mary’s yng Ngogledd Iwerddon, mynychodd Tanni ddigwyddiad lansio yn Neuadd Baralympaidd Amman. Arweiniwyd y lansiad gan 2 arweinydd chwaraeon ifanc gyda 300 o blant, aelod o deulu brenhinol Yr Iorddonen – y Tywysog Ra’ad bin Zeid, gweinidog addysg Yr Iorddonen ac Is Lywydd Pwyllgor Olympaidd Yr Iorddonen a Llywydd Pwyllgor Paralympaidd Yr Iorddonen yn bresennol. Cafwyd rhai areithiau, arwyddwyd cytundeb rhwng y Llywodraethau ac yn bwysicach na dim cafodd y plant amser gwych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dan arweiniad pobl ifanc!

Dewch i ganfod mwy am Ysbrydoliaeth Ryngwladol