Bydd rhaglen newydd ar gyfer helpu pobl ifanc i gymryd Smallsteps4life yn cael ei lansio'n ddiweddarach y flwyddyn hon...dewch i ganfod mwy!
Cymerwch Smallsteps4life a bod yn iach ac egnïol!
14 Mai 2009
Bydd Smallsteps4life yn rhoi cyfle arall i ysgolion gymryd rhan mewn rhaglen a ysbrydolir gan Gemau Llundain 2012.
Yn cael ei lansio’n ddiweddarach y flwyddyn hon ac yn cael ei chynnal hyd at Gemau Llundain 2012 a thu hwnt, bydd Smallsteps4life yn annog pobl ifanc i ymgymryd â heriau cyraeddadwy yn ymwneud â themâu bwyta’n iach, bod yn egnïol a theimlo’n dda.
Bydd y rhaglen a’i gwefan gefnogi yn symbyliad i helpu ysgolion a phobl ifanc i gychwyn ar eu taith Smallsteps4life eu hunain.
Bydd ysgolion a phobl ifanc ar draws y DU yn cael cyfle i ysbrydoli ei gilydd trwy rannu eu profiadau ar y wefan. Trwy wneud hyn byddant yn dod at ei gilydd i roi bywyd iddi, ac yn cymryd eu camau bychan hwyliog tuag at ffyrdd o fyw iachach.
Eisoes mae cyfraniad pobl ifanc wedi cyfrannu’n fawr at ddatblygiad y rhaglen, a byddant yn parhau i fod â rôl bwysig mewn helpu i ddatblygu Smallsteps4life. Yn ystod y misoedd nesaf bydd Smallsteps4life a Bydd Barod yn dod â‘r newyddion diweddaraf i chi am y gwaith a wneir â phobl ifanc, am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei ddweud a sut yr ydym i gyd yn gweithio i roi bywyd i’w syniadau a’u dyheadau trwy’r wefan.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio ar ddatblygu’r rhaglen gydag ystod o bartneriaid, yn cynnwys; Bydd Barod, Adran Plant Ysgolion a Theuluoedd, yr Adran Iechyd ac Ysgolion Iach Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol, Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a’r Ganolfan Blant Genedlaethol.
Yn Lloegr bydd rhaglen Smallsteps4life yn cefnogi rhaglen Change4life.













