Dewch i ganfod mwy am y cyfleon newydd yn strand Menter Bydd Barod
Mentrwch
7 Gor 2009
Mae Gêm Menter Masnachu BP ac astudiaeth achos Menter Llundain 2012 wedi cael eu lansio!
Mae’r Gêm Menter Masnachu yn rhoi cyfle i fyfyrwyr efelychu masnachu olew go iawn. Mewn timau, bydd myfyrwyr yn cystadlu i fasnachu olew a dangos sgiliau a gwerthoedd sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn busnes. Gyda’r gêm ceir ffilmiau, fflachiadau newyddion rhyngweithiol, taenlen cyfrifo masnach, nodiadau athrawon a phecyn masnachwr.
Rhag-archebwch DVD am ddim, bydd yn cyrraedd o fewn cwpl o wythnosau i mewn i’r tymor nesaf – archebwch nawr!
Ac os nad yw hynny’n ddigon – mae TIMES 100 a Llundain 2012 wedi creu astudiaeth achos arbennig sy’n archwilio gweledigaethau a gwerthoedd Llundain 2012! Mae’n gyfle i feddwl am sut y mae’r pethau hyn yn effeithio ar yr amcanion yr ydym eisiau eu gwireddu.













