• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Y Prif Weinidog yn cyfarfodâ chefnogwyr ifanc Llundain 2012
23 Ion 2009

Cafodd grŵp o bobl ifanc o’r 5 Bwrdeistref Cynnal (Newham, Waltham Forest, Tower Hamlets, Greenwich a Hackney) eu recriwtio fel ‘Criw Adeiladu’ yr Olympic Delivery Authority.

Maen nhw wedi cael cyfle i ddysgu am wahanol agweddau rhaglen adeiladu’r Parc Olympaidd, a’u tasg fydd rhannu’r wybodaeth gyda’u ffrindiau, teuluoedd a’u cyd-ddisgyblion dosbarth.

Mae’r Criw Adeiladu eisoes wedi dysgu am sut mae Llundain 2012 yn gwneud eu gorau i warchod yr amgylchedd ac i adeiladu Parc Olympaidd cynaladwy yn ogystalâ chanfod mwy am ddarganfyddiadau archeolegwyr ar y Parc Olympaidd.

Roedd 16 Ionawr 2009 yn dynodi’r pwynt hanner ffordd rhwng Llundain yn dod yn Ddinas Cynnal a’r Seremoni Agor yn 2012. Dynodwyd y foment arbennig yma gan y Criw Adeiladu trwy ymweld â‘r Parc Olympaidd i ganfod mwy am yr holl fathau o swyddi gwahanol mae pobl yn eu cyflawni ar safle adeiladu.

Bu’r Prif Weinidog, Gordon Brown, yn cyfarfod â‘r Criw Adeiladu er mwyn clywed am yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu ac am ba weithgareddau y maen nhw wedi eu gwneud yn eu hysgolion fel llysgenhadon adeiladu’r Parc Olympaidd.

Dysgwch am y Parc Olympaidd