• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Team GB yn gadael Gŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia gyda 68 o fedalau!
20 Ion 2009

Y penwythnos hwn gadawodd tîm o athletwyr ifanc Prydeinig Å´yl Olympaidd Ieuenctid Awstralia gyda 68 o fedalau!

Bu dros 2000 o athletwyr ifanc elît o fwy na 20 gwlad yn cystadlu mewn 21 o gampau Olympaidd yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia 2009 yr wythnos diwethaf.

Gadawodd tîm o athletwyr ifanc Prydeinig rhwng 13-19 mlwydd oed y gystadleuaeth gyda 68 o fedalau! Roedd eu cyfanswm medalau rhagorol o 26 aur, 16 arian a 26 efydd yn ddigon i guro cyfanswm Team GB 2007.

Nod yr Å´yl yw rhoi profiad Olympaidd go iawn i gystadleuwyr, ac mae’r Seremoni Agor yn cynnwys traddodiadau’r Gemau Olympaidd gyda pharêd yr athletwyr, llw athletwyr a swyddogion, tanio fflam yr ŵyl a chodi Baner yr Å´yl.

Dywedodd Mark England o Gymdeithas Olympaidd Prydain: ‘Mae hwn yn grŵp talentog iawn o athletwyr ifanc. Mae mynd i ben arall y byd, a chystadlu mewn gwres o dros 40 gradd, yn erbyn cystadleuwyr o’r radd flaenaf yn gamp aruthrol. Mae gwneud hynny ac ennill 68 o fedalau yn gamp eithriadol.

Bydd rhai o’r athletwyr hyn yn symud i’r tîm hŷn yn eu camp yn eithaf sydyn. I eraill bydd y daith yn fwy graddol, ond o edrych ar y perfformiadau hyn mae’r dyfodol yn eithriadol ddisglair, sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa dda ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 a 2016.’

Dewch i ganfod delweddau am ddim o athletwyr Team GB yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia.