Mae pobl ifanc ar draws Canada yn gwneud y mwyaf o'r paratoadau ar gyfer Gemau Vancouver 2010.
Pobl ifanc ar draws Canada yn dysgu am y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
22 Ion 2009
Mae pobl ifanc ar draws Canada yn gwneud y mwyaf o’r paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Vancouver 2010.
Gyda Gemau Beijing drosodd, mae’r byd chwaraeon yn edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd nesaf yn Vancouver y flwyddyn nesaf.
Mae plant a phobl ifanc ar draws Canada yn dysgu am Gemau y flwyddyn nesaf ac yn meddwl am chwaraeon, diwylliant, Olympiaeth, Paralympiaeth a’r thema trosfwaol o ddinasyddiaeth fyd-eang.
Dysgwch fwy am yr hyn mae pobl ifanc wedi bod yn ei wneud.
Eisiau gwneud cysylltiad ag ysgol yng Nghanada neu yn un o’r gwledydd eraill fu’n cynnal y Gemau Olympaidd yn y gorffennol? Trwy Global Gateway Pathfinder Service yr APYTh gallwch greu cysylltiad am ddim a chael pecyn cychwyn a syniadau ar gyfer prosiectau. Gallwch hyd yn oed wneud cais am arian ar ôl i chi gychwyn eich cysylltiad!













