• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

James Milton yn deifio i esgidiau Tom Daley
12 Ion 2009

Cymerodd Tom Daley, arwr Bydd Barod a seren ddisglair y byd deifio, ei gamau cyntaf at fod yn Olympiad yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia 2007. Dwy flynedd yn ddiweddarach mae ei ffrind agos, James, yn anelu at ddilyn yn ôl ei draed.

14 mlwydd oed yn unig yw Tom a James. Dechreuodd James ddeifio pan oedd ond yn wyth mlwydd oed, a bellach ef yw’r Pencampwr Ewropeaidd ifanc ar y platfform 10m, ac mae’n 4ydd gorau’n y byd yn ei oedran!

Mae James a Tom wedi cystadlu gyda’i gilydd yn y gorffennol. Mis Medi diwethaf roeddynt yn rhannu ystafell ym Mhencampwriaethau Deifio Ieuenctid y Byd, a bachodd James ar y cyfle i ofyn i Tom am ei brofiadau yn Beijing: ‘Gofynnais iddo gwestiynau megis sut brofiad oedd bod yn Seremoni Agor y Gemau Olympaidd? Rhoddodd gyngor mor dda i mi!’

Dewch i ganfod sut hwyl gaiff James arni yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia – fe ddown â‘r holl ganlyniadau i chi yma ar Bydd Barod.

Dewch i ganfod mwy am arwr Bydd Barod, Tom Daley.