Rhoir cyfle i fyfyrwyr 13-19 mlwydd oed i wneud eu marc ar ddarnau arian y genedl ac i fod yn rhan o Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012.
Dyluniwch ddarn arian a chreu hanes!
16 Ion 2009
Mae’r Bathdy Brenhinol yn gwahodd rhai 13-19 mlwydd oed i ddylunio darn 50 ceiniog newydd gan ddefnyddio Seiclo Olympaidd a Pharalympaidd fel eu hysbrydoliaeth.
Mae’r gystadleuaeth yn gwarantu y bydd dyluniad rhywun lwcus yn ei arddegau yn cael ei roi ar ddarnau 50 ceiniog – gallwch ganfod y darn yn eich poced o Fawrth 2010.
Bydd enillydd y gystadleuaeth yn derbyn darn aur unigryw ag arno ei ddyluniad ei hun, a bydd yn cael gwahoddiad i weld ei ddyluniad yn cael ei droi’n arian go iawn y DU yn y Bathdy Brenhinol. Bydd ysgol neu goleg yr enillydd hefyd yn derbyn £10,000!
Dywedodd Andrew Stafford, Prif Weithredwr y Bathdy Brenhinol:
Nid yw hon yn gystadleuaeth i fyfyrwyr celf yn unig. Er ein bod yn chwilio am ddawn greadigol, nid oes rhaid i’r ymgeiswyr fod fel Picasso ifanc i fod â chyfle i ennill. Byddwn yn edrych ar y cysyniad lawn cymaint ag ar safon yr arlunio. Petai rhywun yn meddwl am ffordd glyfar o symboleiddio seiclo, gallwn weithio gydag o ar goethi’r dyluniad.
Dyma’r tro cyntaf mewn hanes i berson ifanc gael y cyfle i ddylunio darn 50 ceiniog fydd yn arian cyfreithlon. Fe allwch chi fod yr un!
Dysgwch fwy am y gystadleuaeth













