• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Chwilio am sêr Paralympaidd newydd
9 Ion 2009

A ninnau ar drothwy 2009, mae ParalympicsGB yn troi eu sylw oddi ar Beijing ac at Lundain ac yn chwilio am y genhedlaeth nesaf o sêr Paralympaidd.

Ar Ionawr 29, bydd Sefydliad Chwaraeon Lloegr yn Sheffield yn cynnal Diwrnod Talent Paralympaidd i ganfod a meithrin talent newydd. Dyma’r pumed mewn cyfres o ddigwyddiadau canfod talent sy’n gobeithio canfod athletwyr a all gynrychioli Prydain mewn Gemau Paralympaidd yn y dyfodol yn cynnwys Llundain 2012

Dywedodd Phil Lane, Prif Weithredwr ParalympicsGB: ‘Mae’r diwrnodau talent hyn yn rhan o’n hymrwymiad i gael y tîm ParalympicsGB gorau eto yn y Gemau cartref yn Llundain yn 2012. Bellach mae gennym lai na phedair blynedd tan Gemau Llundain felly mae angen i ni weithredu ar unwaith i sicrhau y bydd unrhyw un â thalent potensial yn cael ei ganfod a’i roi ar lwybr chwaraeon.’

Mae ParalympicsGB yn chwilio am rai 13-25 mlwydd oed sy’n gorfforol weithgar sy’n perthyn i un o’r grwpiau anabledd canlynol – parlys ymenydd, nam ar y golwg, anafiadau i linyn asgwrn y cefn, trychedigion neu gorachod.

Os credwch fod gennych yr hyn sydd ei angen, pan na chofrestrwch i fynychu digwyddiad canfod talent?

Dewch i ganfod mwy
.