Gydag ond ychydig wythnosau ar ôl, nid oes dim amser i'w wastraffu o ran cyflwyno'ch ymgais i Wobrau EDF Energy i Ysgolion Gwyrddach.
£5,000 i'w ennill gan ysgol wyrddaf y DU
23 Ion 2009
Mae’r Gwobrau, fydd yn cael eu dyfarnu ym Mehefin 2009, yn dathlu athrawon, disgyblion ac ysgolion sydd wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i’w defnydd o ynni a dŵr ac sydd wedi ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl.
Bydd chwe enillydd cenedlaethol y Gwobrau yn derbyn £5000 bob un i helpu eu hysgolion i wireddu eu huchelgais o ran cynaladwyedd, gyda’r 12 nesaf yn derbyn £1000. Yna cyflwynir eu gwobrau i bob un o’r enillwyr lwcus gan aelod o’r panel beirniadu.
Ceir tri chategori i’r gystadleuaeth, gydag un enillydd o Gyfnod Allweddol 2 (oedrannau 7-11) ac un enillydd o Gyfnod Allweddol 3 (oedrannau 11-14) o fewn pob categori:
- Ysgol ysbrydoledig
- Disgybl, tîm neu ddosbarth ysbrydoledig
- Athro ysbrydoledig













