Mae dydd Iau 12 Chwefror yn dynodi un flwyddyn yn unig hyd at ddechrau Gemau Gaeaf Vancouver 2010. Edrychwch ar sut mae plant yn y DU wedi bod yn dathlu'r achlysur.
Vancouver yn cyfrif i lawr un flwyddyn i fynd!
12 Chw 2009
Mae myfyrwyr yn Llundain wedi dechrau trafodaeth drawsatlantig 4708 o filltiroedd ar sut brofiad yw byw mewn Dinas Cynnal, ar yr hyn sy’n rhoi’r cyffro mwyaf i bobl ifanc mewn chwaraeon ac ar sut mae’r paratoadau ar gyfer Gemau’r gaeaf a Gemau’r haf yn wahanol!
Roedd myfyrwyr o Ysgol Gynradd Oakdale yn Redbridge eisoes wedi dangos ymroddiad i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd gan ennill ymweliad gan y Paralympiad Tim Predergast am eu dathliadau Trosglwyddo Paralympaidd rhagorol.
Fel rhan o ymweliad Tim, ac i ddathlu ‘blwyddyn i fynd’ hyd at ddechrau Gemau’r Gaeaf nesaf, gweithiodd t�m Bydd Barod gyda threfnwyr Gemau Vancouver 2010 i sefydlu cysylltiadau rhwng Oakdale ac ysgol gynradd yn Vancouver.
Rhoddwyd baneri a mascotiaid i’r disgyblion i’w helpu i ddathlu, a gwnaethant ffilm y bydd trefnwyr Vancouver 2010 yn ei defnyddio fel rhan o’u dathliadau ‘blwyddyn i fynd’ eu hunain. Gallwch weld eu ffilm ar wefan Bydd Barod yn fuan iawn.
Ni allwn ddisgwyl i gael clywed beth fydd disgyblion Oakdale yn ei ddysgu gan eu ffrindiau newydd yn Vancouver.
Dysgwch fwy am Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Vancouver 2010
Gwnewch gysylltiad eich hun � Dinas Cynnal













