• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Mae Bydd Barod yn chwilio am newyddiadurwyr ifanc!
25 Chw 2009

Pleidleisiodd dros 1000 o bobl yn arolwg cyntaf un Bydd Barod a ofynodd ‘a yw athletwyr o’r radd flaenaf yn fodelau rôl rhagorol’?

Dyma ganlyniad y bleidlais:

  • Ydyn: 36%
  • Efallai… 22%
  • Nac ydyn: 21%
  • Dw i wirioneddol ddim yn gwybod: 20%

Mae Tîm Bydd Barod yn herio rhai rhwng 7-14 mlwydd oed i droi canlyniadau’r arolwg hwn yn stori fyddai’n hawlio’r penawdau! Gawsoch chi’ch synnu gan y canlyniadau? Pam ydych yn meddwl y pleidleisiodd pobl fel y gwnaethon nhw? A yw’r bleidlais’ydyn’yn ddigon trwm? Rydym eisiau clywed gennych chi!

Anfonwch atom eich stori newyddion a byddwn yn cyhoeddi ein hoff un fel prif stori newyddion ar wefan Bydd Barod, ac hefyd yn anfon tystysgrif i chi i ddweud llongyfarchiadau!

Dewch i ganfod mwy ac anfon eich erthygl atom