Mae ParalympicsGB wedi cyhoeddi y bydd y Diwrnod Talent Paralympaidd nesaf, y chweched o'i fath, yn cael ei gynnal ym Manceinion ar 4 Mehefin 2009
Y chwilio am dalent baralympaidd yn parhau...
15 Ebr 2009
Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal yn Sportcity a bydd yn caniatáu i bobl anabl roi cynnig ar nifer o wahanol gampau Paralympaidd. Bydd cynrychiolwyr o wahanol chwaraeon hefyd yn profi unigolion i ganfod unrhyw dalent potensial y gellid ei rhoi ar garlam ar lwybr chwaraeon.
Nod y chwilio am dalent yw canfod a meithrin talent newydd sydd â‘r potensial i gynrychioli’r DU mewn Gemau Paralympaidd yn y dyfodol, yn cynnwys Llundain 2012, a helpu i sicrhau bod Prydain yn parhau i fod yn un o’r gwledydd sy’n arwain ym myd chwaraeon Paralympaidd.
Maent yn chwilio am bobl ifanc 13-25 mlwydd oed sy’n gorfforol weithgar sy’n perthyn i un o’r grwpiau anabledd canlynol – parlys ymenydd, nam ar y golwg, anafiadau i linyn asgwrn y cefn, trychedigion neu gorachod.
Dylai athletwyr awchus sy’n bodloni’r meini prawf hyn ac sy’n credu bod ganddynt y gallu i fod yn Baralympiaid rag-gofrestru i fynychu’r diwrnod.
Mae’r dyddiad a ddewiswyd yn dilyn Cwpan y Byd Paralympaidd BT (20-25 Mai) – edrychwch ar Bydd Barod am y diweddaraf am gyffro Cwpan y Byd!













