Medway yw'r awdurdod lleol cyntaf yn y wlad i dderbyn Nod Ysbrydoli Llundain 2012 am addysg. Dewch i ganfod mwy am yr hyn a wna pobl ifanc yn yr ardal.
Pobl ifanc ym Medway yn cael eu hysbrydoli gan Gemau Llundain 2012
27 Ebr 2009
Medway yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y wlad i dderbyn Nod Ysbrydoli Llundain 2012 am addysg.
Mae’r prosiect ‘Our Medway’ wedi ennill Nod Ysbrydoli Llundain 2012, sy’n cydnabod prosiectau dyfeisgar ac eithriadol a ysbrydolwyd yn uniongyrchol gan Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Mae ‘Our Medway’ ymysg y prosiectau mwyaf uchelgeisiol gaiff eu cynnal wrth arwain at y Gemau. Bydd ‘Our Medway’ yn cynnwys 25 000 o bobl ifanc o 87 ysgol gynradd Medway.
Mae’r rhaglen pedair blynedd, a ddatblygwyd gan ymgynghorwyr addysg y cyngor a thîm 2012, yn anelu at ysbrydoli pobl ifanc i fyw’n ffit ac egnïol, i werthfawrogi eu cymuned leol ac i gofleidio rhagoriaeth, cyfeillgarwch a pharch.
Mae’r themau yn cynnwys, dinasyddiaeth, cymuned, newid a diwylliant, a gofynir i ysgolion ddewis ffocws neilltuol ar gyfer pob blwyddyn – gan ddewis o dreftadaeth, chwaraeon, iechyd, adfywio ac amgylchedd.
Mae’r cwricwlwm yn cynnwys prosiectau seiliedig yn y dosbarth ac ymweliadau astudio cyffrous.
Ers i’r rhaglen gael ei lansio ym mis Medi, mae miloedd o blant ysgol Medway wedi mwynhau ymweliadau a gweithgareddau, o farchogaeth ceffylau a gwersi trampolinio i deithiau o gwmpas safleoedd adfywio Medway a theithiau i safle’r Parc Olympaidd.
Mae disgyblion hefyd wedi bod yn meithrin cysylltiadau gyda gwledydd eraill sydd â chysylltiadau cryf â‘r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac yn cwblhau prosiectau uchelgeisiol yn y dosbarth.
Dywedodd Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Llundain: “Rydym eisiau defnyddio grym y Gemau i ysbrydoli newid. “
“Mae’r rhaglen Ysbrydoli yn cydnabod y gwaith a wna’n partneriaid ar draws y DU gyfan i’n helpu i wireddu’r weledigaeth hon nawr – dair blynedd cyn cychwyn y Gemau.”
“Rwyf yn llongyfarch pawb sydd a wnelo ag ‘Our Medway’ am ennill y nod Ysbrydoli ac yn dymuno pob llwyddiant i chi gyda’ch gwaith.”
Dywedodd y Cynghorydd Howard Doe, Deiliad Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus Cyngor Medway: “Rwyf wedi fy nghyffroi ac wedi fy llawenhau gyda’r wobr hon, gan ei bod yn cydnabod yr ymdrech fawr a wnawn i ddefnyddio Gemau 2012 i gynnwys ein pobl ifanc ac i ysbrydoli rhai i fod yn bencampwyr y dyfodol.”
Os ydych yn ymwneud ag ‘Our Medway’ cofiwch flogio am hynny ar Bydd Barod – fe allech ymuno â rhwydwaith Bydd Barod!
Dewch i ganfod mwy am ‘Our Medway’













