Mae gwefan Bydd Barod nawr ar gael mewn Cymraeg! Dewch i ganfod mwy am sut mae myfyrwyr yng Nghymru yn dysgu am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
Bydd Barod mewn Cymraeg
6 Ebr 2009
Lansiwyd fersiwn Gymraeg Bydd Barod yng Nghaerdydd gan Ddirprwy Weinidog Sgiliau, John Griffiths.
Mae tua 90 o ysgolion a cholegau yng Nghymru eisoes wedi cofrestru â ‘Bydd Barod’, ac erbyn hyn mae’r wefan wedi cael ei chyfieithu i’r Gymraeg.
Wrth lansio’r wefan yn Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg, dywedodd John Griffiths, Dirprwy Weinidog Sgiliau: ‘Rwyf yn falch o gael lansio’r wefan hon yng Nghymru, ac rwyf yn sicr y bydd yn annog llawer o blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau sy’n adlewyrchu’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.’
Dywedodd Paul Deighton, Prif Weithredwr Pwyllgor Trefnu Llundain 2012: ‘Gemau i Bawb yw Gemau Llundain 2012 ac rydym yn falch o gael cynnig y cyfle addysgol unwaith-mewn-oes hwn i ddisgyblion Cymraeg eu hiaith.’













