Enillodd Mabel Collins, o Ringwood Junior School, Hampshire, y gystadleuaedd 'Bydd Barod i newyddiadura'. Ysgrifennodd erthygl wych am athletwyr fel modelau rôl - dewch i weld beth oedd ganddi i'w ddweud...
A yw athletwyr elît yn fodelau rôl da? Gan Mabel Collins.
24 Ebr 2009
Gofynnodd arolwg barn cyntaf un Bydd Barod a yw athletwyr elît yn fodelau rôl rhagorol ai peidio. Cafodd dros 1000 o bleidleisiau eu bwrw ac fe roesom wahoddiad i bobl ifanc droi’r canlyniadau yn brif stori newyddion. Darllenwch yr erthygl fuddugol!
Roedd 60% o’r pleidleiswyr heb gael eu hargyhoeddi bod athletwyr yn fodelau rôl da.
Pam ein bod yn credu hyn? Ai’r cyfryngau sy’n dylanwadu ar ein barn? Rydym wastad yn clywed am y pethau drwg a wna athletwyr. Er enghraifft; athletwyr sy’n cael gormod o gyflog – yn enwedig pêl-droedwyr, camymddwyn ar ac oddi ar y cae, cymryd cyffuriau a mathau eraill o dwyllo megis deifio mewn pêl-droed, cellwair cefnogwyr y gwrthwnebwyr wrth ddathlu, ymladd ar y cae.
Ond fe allwn newid hyn petai’r cyfryngau yn dechrau dathlu llwyddiannau modelau rôl positif. Hefyd, fe allant ganolbwyntio ar athletwyr sy’n gwneud gwahaniaeth nid yn unig yn eu campau eu hunain, yr athletwyr sy’n gwneud gwaith elusennol, sy’n rhoi eu harian i bobl sydd ei angen yn fwy na hwy eu hunain.
Fe gawsom gyfweliad gyda Julie Ellis, un o’r bobl a bleidleisiodd yn erbyn athletwyr fel modelau rôl da i blant. Pan awgrymwyd y gallai’r cyfryngau fod wedi dylanwadu ar ei barn, dywedodd; “Rydych yn iawn. Nid oeddwn wedi meddwl am y peth yn y ffordd yna o’r blaen. Mae llawer o athletwyr yn fodelau rôl gwych i blant, ond rydym wedi arfer gymaint â chlywed am sut mae athletwyr yn gwneud pethau anghywir, fel ein bod yn anghofio am y pethau da.”
Fe gawsom gyflweliad gyda newyddiadurwr o bapur newydd cenedlaethol i geisio gweld pam fod y gohebwyr ond yn adrodd ar y pethau negyddol a wna athletwyr. Nid oedd eisiau i ni grybwyll ei enw. Dyma oedd ei ateb:
“Edrychwch, mae pobl eisiau clywed am y pethau drwg a wna athletwyr, nid am y pethau da. Pan fo pobl yn gwylio chwaraeon, maent yn aml yn gwneud hynny oherwydd eu bod eisiau i bobl fethu, i bobl wneud camgymeriad, onid ydyn? Dancing on Ice, er enghraifft, mae pobl yn gwylio honno oherwydd eu bod eisiau i’r sglefrwyr ddisgyn a chael marciau isel fel y gallant bleidleisio drostynt. Felly dyna yw rôl y papur newydd, dweud wrthych y pethau yr ydych eisiau eu clywed. Eich diddanu.”Gofynwyd iddo a fyddai’n ystyried cynnwys y pethau mwy positif a wna athletwyr. Dyma oedd ei ateb:
“Beth yw’r pwrpas i ni ysgrifennau am bethau nad yw pobl eisiau darllen amdanynt? Ni fyddem yn gwerthu llawer o bapurau petai hynny’n digwydd. Byddai’n wastraff llwyr o bapur, a mae’n anodd iawn cael papur y dyddiau hyn fel ag y mae hi, gyda’r holl warchod ar goedwigoedd glaw a’r holl lol yna.” Yna fe wrthododd ateb rhagor o’n cwestiynau.
Os yw hyn yn wir, sut allwn ni newid agwedd newyddiadurwyr a golygyddion papurau newydd? Gellir dweud yr un peth am deledu a mathau eraill o gyfryngau.
Petai athletwr yn gwneud rhywbeth positif yn y gymuned, a fyddai hynny’n cael ei gynnwys yn y newyddion? Beth petai’r un athletwr yn cael ei ffilmio’n disgyn ac yn rhegi, fe fyddai hynny’n llawer mwy tebygol o gael ei ddangos. Ein cyfrifoldeb ni yw rhoi pwysau ar y cyfryngau i ddangos ein athletwyr mewn goleuni positif ac nid canolbwyntio’n unig ar y pethau negyddol.
Gan Mabel Collins. 11 oed
Gweld canlyniadau arolwg Bydd Barod
Pleidleisiwch yn ein harolwg diweddaraf













