• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Pencampwyr i godi Baneri Olympaidd a Pharalympaidd yng nghanol Llundain.
22 Med 2008

Enillydd medal aur yn Beijing, Christine Ohuruogu fydd yn codi’r Faner Olympaidd a Chris Holmes, MBE, nofiwr Paralympaidd mwyaf llwyddiannus Prydain, fydd yn codi’r Faner Baralympaidd. Maer Llundain, Boris Johnson, fydd yn codi Baner yr Undeb.

Ar yr achlysur, bydd Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain 2012, Sebastian Coe, a Gweinidog y Gemau Olympaidd, Tessa Jowell, yn ymuno ag Olympiaid 1948, enillwyr medalau Beijing 2008, a rhai sy’n gobeithio cael llwyddiant yn Llundain 2012. Hefyd bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas Olympaidd Prydain, Cymdeithas Baralympaidd Prydain ac UK Sport yno, ynghyd ag arweinwyr cymuned a phlant ysgol lleol.

Dywedodd Boris Johnson, Maer Llundain: ‘Mae codi’r baneri gyda’i gilydd yn Neuadd y Ddinas yn dynodi eiliad hanesyddol i Lundain, ar ôl i’r holl athletwyr a berfformiodd mor rhagorol yng Ngemau Beijing ddychwelyd adref. Mae’r baneri yn arwydd o’n hymroddiad a’n hymrwymiad i sicrhau y bydd Gemau Llundain yn 2012 yn wledd o chwaraeon fydd yn agored i bawb.’