• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Y Parc Olympaidd yn Llundain fydd yr un mwyaf hygyrch erioed.
24 Med 2008

Mae’r Olympic Delivery Authority wedi cyhoeddi “Strategaeth Ddylunio Gynhwysol” sy’n egluro sut y caiff y Parc ei ddyluino a’i adeiladu i sicrhau y bydd pawb yn gallu ei ddefnyddio’n hawdd. Mae hyn yn cynnwys pobl o wahanol ddiwylliannau, credoau ac oedrannau, a phobl anabl.

Mae llawer o wahanol bobl o’r gymuned leol wedi helpu’r ODA i ysgrifennu’r strategaeth, felly cafwyd llawer o gyfleon i grwpiau aml-grefydd, rhieni, pobl anabl ac eraill i fynegi eu barn.

Mae enghreifftiau o’r cynlluniau hygyrch yn cynnwys: – Llwybrau lletach drwy’r Parc gyda wynebau llyfn, llawer o fannau i eistedd a gorffwys. – Llethrau nad ydynt yn rhy serth – Llawer o gyfleusterau newid babanod a llefydd cadw pramiau – Llawer o doiledau a chyfleusterau ymolchi hygyrch.

Mae meddwl am gynllunio hygyrch nawr yn golygu, wedi i Gemau Llundain 2012 orffen, y bydd y Parc yn lle croesawgar a hawdd i’w ddefnyddio i’r bobl leol fydd yn ymweld ag o.

Dywedodd Y Fonesig Tanni Grey-Thomson, enillydd Medal Aur Baralympaidd: ‘Gan i mi fod yn gystadleuydd, gwyliwr a sylwebydd mewn nifer o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw bod y Parc a’r lleoliadau’n hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio.

‘Mae Llundain 2012 yn anelu at fynd ymhellach nag unrhyw Ddinas Gynnal flaenorol i sicrhau y bydd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd fel ei gilydd yn hygyrch i bawb. Ar ôl y Gemau, gadweir i ni leoliadau chwaraeon o safon fyd-eang a’r parc mwyaf a’r un mwyaf cynhwysol yn Llundain fydd yn help i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd.’