Rhoddwyd cychwyn ar Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 y bore yma yn y Tate.
Yr Olympiad Diwylliannol yn cychwyn ar wib
26 Med 2008
Lansiwyd Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 y bore yma. Bu athletwyr Olympaidd yn cynnwys Sebastian Coe a’r Fonesig Kelly Holmes yn gwibio er mwyn helpu i greu darn newydd o waith gan yr arlunydd enwog, Martin Creed, yn y Tate Britain.
Roedd yr achlysur yn rhan o Benwythnos Agored, oedd yn cael ei gynnal hyd at ddydd Sul 28 Medi, ac a oedd yn cynnwys dros 600 o ddigwyddiadau eraill ar draws y DU.
Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys perfformiadau awyr agored, perfformiadau dawns, dangos ffilmiau, mynediad am ddim i drysorau cudd mewn amgueddfeydd a llawer mwy.
Am 20.12 heno (8.12pm) bydd lleoliadau diwylliannol yn cael eu goleuo gyda lliwiau Llundain 2012.
Heddiw hefyd fe godwyd y Baneri Olympaidd a Pharalympaidd swyddogol yn Neuadd y Ddinas, a drosglwyddwyd i Faer Llundain, Boris Johnson, yn ystod Seremoni Gloi Gemau Beijing 2008.













