Miliynau o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn dathliadau Trosglwyddo Paralympaidd ar draws y DU gyfan.
Dathlu'r Trosglwyddo Paralympaidd yn y DU
17 Med 2008
Heddiw, nodwyd y Trosglwyddo Paralympaidd gyda gweithgareddau arbennig mewn tua 5,000 o ysgolion a cholegau.
Mae’r uchafbwyntiau o’r DU drwyddi draw yn cynnwys:
- Tros 50 o gyn Baralympiaid a 200 o blant ysgol o Aylesbury yn ymgynnull yn Stoke Mandeville i godi baneri ac i wylio’r darllediad byw.
- Mwy na 750 o blant ysgol o Fwrdeistref Hackney yn Llundain yn cymryd rhan mewn rhaglen chwaraeon Paralympaidd dros dri diwrnod, a digwyddiad cymunedol am ddim yn dangos y Trosglwyddo Paralympaidd yn Sgwâr Neuadd y Dref Hackney.
- Llun o’r awyr o faner De Affrica wedi ei gwneud o ddisgyblion Ysgol Arbennig Wilson Stuart yn Birmingham. Byddan nhw hefyd yn dysgu am y gwerthoedd Paralympaidd, ac yn recordio neges o ewyllys da i’w hysgol bartner yn Ne Affrica ar gyfer Cwpan y Byd 2010.
- Tros 150 o fyfyrwyr o Bartneriaethau Chwaraeon Ysgolion Essex yn cymryd rhan mewn amryw o Chwaraeon Paralympaidd yng Nghanolfan Chwaraeon ac Athletau Chelmsford.
- Cyngor Gogledd Tyneside yn lansio’i ‘Blwyddyn Chwaraeon’ a Chynllun Grantiau Perfformwyr Talentog.
- Coleg Chwaraeon newydd Kirkby, Knowsley, Lerpwl, yn lansio’i ethos newydd sydd wedi ei seilio ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd gyda gwasanaeth arbennig a digwyddiadau cyfranogi mewn chwaraeon.
- Cyngor Sir Caint yn lansio Rhaglen Ddysgu Gemau 2012 ar gyfer ei holl ysgolion yn Folkestone.
- Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd yn cynnal sesiwn blasu Athletau a Phêl-fasged Cadair Olwyn ar gyfer ei disgyblion ei hun a’r rhai hynny o’r Ysgol Gynradd AAA gyfagos.
- Coleg Oakgrove, Londonderry yn cynnal gwasanaeth arbennig gan Angela Hendra MBE, Cadeiryddes DSNI a chyn Baralympiad, a gweithdai Pêl-fasged Cadair Olwyn, Pêl-gôl a Boccia.
- Sesiwn Athletau i bobl ifanc anabl a rhai nad ydyn nhw’n anabl ar Drac Athletau Kings Park yn Bournemouth, a hyfforddiant a gwersi Hwylio i bobl ifanc o bob sir yn Ne-orllewin Lloegr.
- Gweithgareddau Partneriaeth Chwaraeon yn Academi Hwylio Weymouth a Portland.
- Sesiynau blasu Boccia, Golff Bach, Trac a Maes a Rygbi Bach, a gweithgareddau gwneud llumanau, baneri a chacennau wedi cael eu cynnal gan ddisgyblion Ysgol Arbennig Stubbin Wood yn Bolsover, Dwyrain Canolbarth Lloegr.
- Ysgol Gynradd Dane Royd, Wakefield – gêm Question of Sport, gwersi codi hwyl gan y Wakefield Wildcats i greu dawns ddathlu, disgyblion yn gwisgo’r lliwiau Olympaidd a Pharalympaidd ac yn creu darnau o gelfyddyd yn ymwneud â‘r gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
- Ysgol Uwchradd Gymunedol Inveralmond, Livingston, Yr Alban yn rhoi arddangosfa codi hwyl, ac yn cynnal twrnament pêl-droed a ras gyfnewid baner.
- Gŵyl aml-chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Mile End i ysgolion ar draws Tower Hamlets.
- Lleoliadau yn Hackney, Waltham Forest a Sgwâr Trafalgar yn dangos darllediad byw o’r Trosglwyddo Paralympaidd i Lundain.













