Heddiw, digwyddodd Trosglwyddo'r Gemau Paralympaidd o Beijing i Lundain yn Stadiwm Nyth yr Aderyn.
Dathliadau Trosglwyddo Paralympaidd yn Beijing
17 Med 2008
Heddiw, derbyniodd Boris Johnson Faner unwaith eto yn Stadiwm Cenedlaethol Beijing, a’r tro hwn y Faner Baralympaidd oedd hi.
Yn dilyn trosglwyddo’r Faner, perfformiodd Llundain sioe wyth munud o hyd oedd yn dilyn ymlaen o’r Trosglwyddo Olympaidd. Cafwyd ymddangosiad arall gan fws coch Llundain, perfformwyr ifanc, dilyniannau dawns dyfeisgar, cerddoriaeth wedi’i chyfansoddi’n arbennig a thirnodau eiconig.
Ymysg y perfformwyr yn y sioe roedd y Paralympiad, Ade Adepitan, ac enillydd cystadleuaeth Blue Peter, Gareth Picken.
Ar ddiwedd y sioe, trawsnewidiodd y bws i gario logo Paralympaidd Llundain 2012. Fel yr oedd yn gadael y stadiwm, cafodd gwmni rhai o gystadleuwyr Paralympaidd mwyaf llwyddiannus y DU – David Weir, Shelly Woods, Eleanor Simmonds, David Roberts a’r tîm Boccia enillodd y fedal aur – Nigel Murray, Dan Bently, Zoe Robinson a David Smith.
Dywedodd Sebastian Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain 2012: ‘Roedd Seremoni Gloi Gemau Paralympaidd Beijing yn wefreiddiol, ac rydym yn falch ein bod wedi cymryd rhan ynddi a’n bod wedi cyflwyno ciplun o Lundain a’r DU i’r byd.
Roedd ein sioe yn datgan ein bwriad i greu Gemau a fydd yn ysbrydoli ac yn llawn hwyl, ac yn denu’r holl fyd i gymryd rhan. Rydym yn falch mai ni fydd nesaf i fod yn Ddinas Cynnal Baralympaidd yr haf.
Rwy’n llongyfarch Beijing ar gynnal y naill Gemau a’r llall mor wych, tîm Tsieina am orffen ar frig y tabl medalau Paralympaidd, ac i ParalympicsGB ar berfformiad rhyfeddol wrth ddod yn ail.’
Wrth i’r bws adael y stadiwm, cafodd ei drawsnewid i gario logo Paralympaidd Llundain 2012.













