Adidas yn agor eu adiZone cyntaf - lleoliad amlchwaraeon awyr agored i gymunedau lleol.
Adidas ewch i 'zone' 2012
11 Med 2008
Adidas yw Partner Dillad Chwaraeon Swyddogol Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ac maen nhw wedi rhoi £1 miliwn i helpu denu pobl ifanc Llundain i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Maen nhw wedi lansio pum lleoliad aml-chwaraeon enfawr o’r enw ‘adiZones’ ym mhob un o’r Bwrdeistrefi Cynnal (Tower Hamlets, Greenwich, Hackney, Newham a Waltham Forest) – ac mae Tower Hamlets yn agor heddiw.
Bydd y gymuned yn cael defnyddio’r adiZones am ddim a byddan nhw’n cynnwys ardaloedd pêl-fasged, pêl-droed a thennis, wal ddringo, campfa awyr agored ac ardal agored ar gyfer dawns, aerobeg a gymnasteg.
Bydd tîm o Ysgogwyr adiZone yn gweithio i ddenu cymunedau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon i ddefnyddio’r lle. Bydd hyfforddwyr lleol yn cael eu cymell i ymweld â‘r safleoedd i chwilio am dalentau er mwyn eu hysgogi nhw i ymuno â chlwb lleol.
Agorwyd y safle newydd yn Tower Hamlets yn swyddogol gan Christine Ohuruogu, enillydd medal Aur Olympaidd y 400m yn Beijing yn 2008, a dywedodd:
“Mae’r adiZones yn llefydd hyfryd lle gall pobl ifanc gyfarfod â‘i gilydd, treulio amser a chymryd rhan mewn chwaraeon. Gan i mi gael fy magu yn yr ardal, rwy’n gwybod y bydd yr adiZones yn ychwanegiad gwerthfawr i’r gymuned leol ac y caiff ei groesawu’n fawr.”













