• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Danny Crates i gario baner y Seremoni Agor ar ran ParalympicsGB
5 Med 2008

Heddiw cyhoeddodd ParalympicsGB mai Llysgennad Llundain 2012, Danny Crates, fydd yn cario’r faner ar ran tîm Prydain Fawr yn Seremoni Agor Gemau Paralympaidd Beijing yfory, dydd Sadwrn 6 Medi.

Bydd y pencampwr Paralympaidd, Byd ac Ewropeaidd yn yr 800m T46 yn amddiffyn y teitl enillodd yn Athen bedair blynedd yn ôl, ac mae’n rhan o dîm o 36 o athletwyr fydd yn cystadlu ar ran Prydain yn Beijing.

Bydd Danny yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y trydydd tro. Roedd yn chwaraewr rygbi talentog cyn iddo golli ei fraich mewn damwain ffordd yn Awstralia ym 1994 ac yna gwelwyd bod ganddo ddawn athletaidd.

Ar ôl cael ei ddewis gan gyd-aelodau ei dîm, disgrifiodd hynny fel ‘yr anrhydedd mwyaf all athletwr ei chael – cario’r faner i mewn i Stadiwm Nyth yr Aderyn.’

Dywedodd:
bq. ‘I mi, mae’n rhywbeth arbennig. Mae fy ngyrfa wedi bod yn llawn uchafbwyntiau ac ambell i bwynt isel, fel yng ngyrfa unrhyw athletwr, ond hyn yw’r pinacl. Dyma’r un nad oedd gen i unrhyw reolaeth drosto. Dyma’r un y mae’n rhaid i rywun ei roi i chi am yr hyn yr ydych wedi ei gyflawni mewn chwaraeon.’

Mae’r Gemau Paralympaidd yn digwydd o 6 Medi tan 17 Medi. Bydd Prydain yn cael ei chynrychioli mewn 18 o’r 20 camp gan 206 o athletwyr. Daeth tîm Prydain yn ail yn Athen, ond rhaid disgwyl cystadleuaeth dda yn y Gemau y tro hwn, yn arbennig gan Tsieina y tîm cartref.