• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn cychwyn gydag agoriad trawiadol.
6 Med 2008

Mae Gemau Paralympaidd Beijing 2008 wedi cael eu lansio gyda Seremoni Agor ryfeddol.

Yn ystod y sioe dair awr perfformiodd 6,000 o berfformwyr a 4,000 o athletwyr anabl o 148 o wledydd gerbron torf o 91,000.

Dywedodd Paul Deighton, Prif Weithredwr Pwyllgor Trefnu Llundain 2012:

‘Cyflwynodd Tsieina Seremoni Agor wefreiddiol i’r Gemau Paralympaidd. Swynwyd y stadiwm gan Li Yue, myfyriwr bale un ar ddeg oed a gollodd goes bedwar mis yn ôl yn naeargryn Sichuan, wrth iddi ddangos i’r byd nad ydi hi wedi rhoi’r gorau i freuddwydio am fod yn ddawnswraig er gwaethaf ei hanabledd diweddar. Roedd pawb yn y Stadiwm yn dringo’r rhaff gyda Hou Bin wrth iddo danio’r Dortsh – perfformiad oedd yn wefreiddiol. Rydym wedi’n hysbrydoli’n llwyr ac yn edrych ymlaen at 11 diwrnod o chwaraeon, ac, i ni, 11 diwrnod o ddysgu wrth i ni baratoi ar gyfer Gemau Paralympaidd yr Haf nesaf yn Llundain yn 2012.’