• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Gwyliwch y Parc Olympaidd yn dod yn fyw
6 Hyd 2008

Bydd pob un o’r ‘ParcCams’ newydd yn tynnu lluniau llwythi o weithiau bob dydd. Yna caiff y lluniau eu lanlwytho ar y wefan yn awtomatig i bawb gael eu gweld.

Mae’r camerâu yn anelu at rai o brif leoliadau’r Parc sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, yn cynnwys y Stadiwm Olympaidd, y Ganolfan Chwaraeon Dŵr a’r Pentref Olympaidd. Mae camerâu eraill yn anelu at y lle y mae’r Ganolfan Ynni newydd yn cael ei hadeiladu, ac maen nhw’n rhoi llun ehangach o’r Parc.

Dywedodd John Armitt, Cadeirydd yr ODA: ‘Mae’r Parc Olympaidd yn newid bob diwrnod oherwydd graddfa’r adfywio sy’n digwydd ar hyd y safle. Bydd y ParcCams newydd hyn yn rhoi sedd rhes flaen i’r cyhoedd, gan sicrhau na fyddan nhw’n colli unrhyw ddatblygiad wrth i’r gwaith gyflymu o ran adeiladu’r lleoliadau a’r isadeiledd sydd ei angen ar gyfer y Gemau a’r etifeddiaeth.

Gwyliwch luniau’r ParcCams.