Mae Blwyddyn Genedlaethol Darllen, trwy weithio â Llundain 2012, yn gwahodd plant y phobl ifanc ar draws y wlad i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth newydd, Geiriau Croeso.
Geiriau Croeso
6 Hyd 2008
Os ydych rhwng 3-19 mlwydd oed mae’r gystadleuaeth Geiriau Croeso yn eich gwahodd i afael mewn camera, i bwyso’r botwm ac i anfon atom luniau o’r geiriau a’r arwyddion yr ydych chi’n ei deimlo sy’n cynrychioli’ch ardal leol a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Brydeinig
Efallai bod gennych stryd enwog yn eich ardal? Efallai y ceir murlun graffiti mawr neu rywbeth wedi ei ysgrifennu ar fwydlen yn eich hoff dŷ bwyta? Efallai bod yna arwydd gwych y tu allan i’ch hoff le, megis ‘Croeso’ wedi ei ysgrifennu mewn llawer o wahanol ieithoedd?
Beth bynnag ydyw, a beth bynnag y mae’n ei ddweud, pam na dynnwch lun ohono a’i anfon atom? Bydd y lluniau gorau’n cael eu dangos yma, ar wefan Bydd Barod, ac fe allwch fod â chyfle i ennill ymweliad gan athletwr Olympaidd neu Baralympaidd!
Dysgwch fwy am Eiriau Croeso.













