• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Cynghorion gorau ar gyfer Her Gwneud Eich Marc
26 Hyd 2008

Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru – byddech yn bananas petaech yn colli’r cyfle! I’ch helpu i baratoi, rydym wedi rhoi cynghorion gorau at ei gilydd i’r rhai sy’n cymryd rhan.
Dychmygwch, mae’n fore 17 Tachwedd 2008, mae’r Her wedi ei datgelu ac mae gennych un diwrnod yn unig i feddwl am syniad sy’n gweddu i’r brîff. Cofiwch – does yna’r un syniad yn syniad drwg! Ceisiwch ddefnyddio rhai o’r technegau canlynol i ddechrau meddwl yn greadigol:

EI GARU – yn aml fe ddaw syniadau o bethau mae pobl yn eu caru neu’n gyfarwydd â nhw. Beth yw eich diddordebau? Dychmygwch droi’ch angerdd yn waith…yn sicr, ni fydd yn ddiwrnod arferol yn y swyddfa.

TU CHWITHIG ALLAN – mae gennych syniad, ond nid ydych yn sicr a ydyw o unrhyw werth. Meddyliwch am y ffyrdd gwaethaf o ddatblygu’ch syniad, yna trowch yr atebion y tu chwithig allan i ganfod y ffyrdd gorau! Erioed wedi clywed am awgrymiadau dwl megis tebot siocled?

BETH SY’N EICH CYNDDEIRIOGI? – ydych chi weithiau’n meddwl, fe allwn i wneud cymaint gwell? Efallai y gallech? Meddyliwch am y pethau mewn bywyd sy’n eich cynddeiriogi – beth allech chi ei wneud i’w newid?

MAE RHYWBETH AR GOLL – oes yna rywbeth fyddai’n gwneud eich bywyd yn well? Beth ddylai fodoli ond nid ydyw?

Ac yn olaf, cofiwch ddefnyddio’ch cryfderau a chynnwys pob aelod o’r tîm – bydd gan bob un rywbeth gwahanol i’w gyfrannu.

Dewch i ganfod mwy o wybodaeth.