• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Caniatâd i leoliad Olympaidd newydd
1 Hyd 2008

Cafodd trigolion lleol gyfle i leisio’u barn am y Ganolfan Canwio Dŵr Gwyn cyn y cyflwynwyd y cais cynllunio yn ystod yr haf.

Yn ystod yr haf cyflwynwyd cais cynllunio am Ganolfan Canwio Dŵr Gwyn. Cyn iddo gael ei gyflwyno, cafodd trigolion lleol gyfle i leisio’u barn am y Ganolfan ac erbyn hyn mae Cyngor Broxbourne rhoi cantatâd i’w adeiladu.

Bydd y cyfleusterau newydd yn Broxbourne yn cael eu hadeiladu gan yr Olympic Delivery Authority. Bydd yno gwrs 300m, cwrs paratoi a llyn gorffen, ynghyd â derbynfa, caffi, ystafelloedd newid, siop, swyddfeydd, ardal gwylwyr, storfa cyfarpar a chyfleusterau pwmpio dŵr.

Bydd y cwrs yn rhan o ardal parcdir ehangach. Bydd llwybrau a phontydd yn cael eu hadeiladu i helpu gwylwyr i fynd yn agosach at y cystadlu. Ar ôl y Gemau bydd y lleoliad yn atyniad chwaraeon a hamdden mawr.