• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Her Gwneud Eich Marc - Cofrestrwch Nawr!
14 Hyd 2008

Erbyn hyn dim ond 5 wythnos sydd i fynd nes y cyhoeddir manylion y gystadleuaeth menter un diwrnod genedlaethol fyw fwyaf yn y DU ar gyfer myfyrwyr rhwng 14-19 oed.

Llynedd cymerodd dros 38,000 o fyfyrwyr ran yn yr her, ac eleni mae’n debyg y bydd yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen. Yr Her sy’n rhoi cychwyn i Wythnos Menter (17-23 Tachwedd 2008) sydd erbyn eleni yn fyd-eang ac yn rhan o’r Wythnos Menter Fyd-eang gyntaf erioed.

Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn Her 2008 yn rhan o ddathliad menter byd-eang fydd yn digwydd mewn dros 75 o wledydd ar draws y byd.

Bydd y brîff yn cael ei lansio ar-lein ar 17 Tachwedd, a dim ond un diwrnod fydd gan y timau fydd yn cymryd rhan i feddwl am syniadau busnes creadigol ac ysbrydoledig fydd yn cynnig ateb i’r brîff.

Banana Gwneud Eich Marc

I fod yn rhan o’r mudiad byd-eang cyffrous hwn, cofrestrwch nawr. Gallwch gofrestru am ddim a gallwch ennill gwobr o £3000!