• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Ysbrydoliaeth Ryngwladol yn ymestyn
26 Tach 2008

Cynlluniwyd Ysbrydoliaeth Ryngwladol i annog pobl ifanc o bedwar ban byd i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’r cynllun yn gobeithio cyrraedd 20 miliwn o blant mewn 20 gwlad erbyn 2012.

Y pum gwlad cyntaf i gymryd rhan yn Ysbrydoliaeth Ryngwladol oedd India, Azerbaijan, Brasil, Palau a Zambia. Lansiwyd y rhaglen yn gynharach eleni gan Y Prif Weinidog Gordon Brown.

Heddiw, cyhoeddwyd y bydd pum gwlad newydd yn ymuno â‘r rhaglen – Bangladesh, Ghana, Yr Iorddonen, Mozambique a Triniad a Tobago.

Dywedodd Sebastian Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain: “Ein gweledigaeth yw defnyddio’r Gemau i ysbrydoli newid – newid bywydau yw’r gwynt yn hwyliau ein cynlluniau. Aethom â gweledigaeth bendant i Singapore i annog pobl ifanc y byd i ddewis chwaraeon. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam pendant arall tuag at gyflawni’r addewid hwnnw.”

Dysgwch fwy am Ysbrydoliaeth Ryngwladol