Heddiw mae tîm rygbi byd enwog Crysau Duon Seland Newydd yn helpu adidas, Partner Dillad Chwaraeon Swyddogol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, i agor yr 'adiZone' diweddaraf, lleoliad aml-chwaraeon awyr agored anferth.
Y Crysau Duon yn ymweld â Greenwich i gael plant Llundain i fod yn egnïol
25 Tach 2008
Mae’r adiZone newydd ar gael i’w ddefnyddio am ddim i’r gymuned, ac mae’n gobeithio clirio’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag bod yn egnïol, gan wneud cyfranogi mewn chwaraeon yn hygyrch. Ysbrydolwyd y safle gan chwaraeon amrywiol y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac mae’n cynnwys cyfleusterau chwarae pêl-fasged, pêl-droed a thennis, wal ddringo, campfa awyr agored, ac ardal agored i hyrwyddo dawns, aerobeg a gymnasteg.
Dywedodd capten y Crysau Duon, Richie McCaw: “Mae’n fraint bod yn Greenwich heddiw yn agor yr adiZone yn swyddogol, yn ogystal â chyfarfod plant o’r bwrdeistref. Mae’r tîm yn gobeithio y caiff pobl ifanc eu hysbrydoli gan yr adiZones ac y byddan nhw’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn y gymuned leol.”
Dywedodd Sebastian Coe, Cadeirydd Llundain 2012: “Mae’n wych gweld adiZone arall yn agor yn Llundain, ac rwyf wrth fy modd bod adidas yn defnyddio ysbrydoliaeth Llundain 2012 i annog pobl ifanc i fod yn egnïol – rhywbeth oedd wrth wraidd ein cynnig – ac rwyf yn edrych ymlaen at weld y cynllun yn tyfu rhwng nawr a 2012. Mae rhoi cyfle i bobl ifanc gael blasu ffyrdd o fyw’n egnïol yn un peth, ond mae gwneud hynny mewn ffordd mor ddyfeisgar ac effeithiol, ac mewn ffordd sy’n gadael etifeddiaeth real y tu hwnt i 2012 yn tanlinellu pam fod adidas yn bartner perffaith i Lundain 2012.”













