Cafodd dau o'Arwyr'Bydd Barod eu cydnabod yn ystod gwobrau Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC ddoe.
Ellie Simmonds yn ennill Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC
15 Rha 2008
Coronwyd Ellie Simmonds, 14 mlwydd oed, yn Bersonoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn ar ôl ennill dwy fedal aur yng Ngemau Paralympaidd Beijing. Tair ar ddeg oed yn unig oedd Ellie ac yn aelod ieuengaf tîm Paralympaidd y DU pan efelychodd gamp Rebecca Adlington o gipio dwy fedal aur yn y pwll.
Gwobrwywyd Tom Daley â‘r trydydd safle yng nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC ar ôl ei lwyddiannau rhyfeddol yn Beijing. Enillodd Tom le yn rownd derfynol y gystadleuaeth platfform 10m cydamserol a’r gystadleuaeth platfform 10m unigol. Ef oedd aelod ieuengaf TeamGB ers 1960!
Dewch i ganfod mwy am Tom, Ellie ac arwyr eraill Bydd Barod.













