Dewiswyd dros gant o athletwyr ifanc i gynrychioli Team GB yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia yn Sydney mis Ionawr nesaf.
Athletwyr gobeithiol Team GB ar eu ffordd i Awstralia
1 Rha 2008
Bydd pob un o’r athletwyr a ddewisir rhwng 13 a 19 mlwydd oed, a byddan nhw’n cystadlu mewn 11 o chwaraeon Olympaidd: saethyddiaeth, canŵ/caiac, deifio, marchogol, cleddyfa, gymnasteg, hoci, rhwyfo, saethu, triathlon a phêl-foli glan môr.
Bydd athletwyr Team GB yn cystadlu ynghyd â 1600 o rai eraill fydd yn cynrychioli 25 o wahanol genhedloedd yn cynnwys Tsieina a’r Unol Daleithiau
Dywedodd Jenni Pinches sydd wedi cael ei dewis yn rhan o’r tîm: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Å´yl Olympaidd Ieuenctid Awstralia. Yn fwy na dim, bydd y teithio a’r profiad o fod yr ochr arall i’r byd ynghyd â‘r cyfle i gystadlu yn erbyn gwledydd eraill yn help mawr i mi. Bydd cael cystadleuaeth lân yn yr amgylchedd hwn yn llwyddiant mawr a bydd yn help mawr at fy ngyrfa.’
Edrychwch ar restr lawn o’r athletwr fydd yn cynrychioli Team GB a dysgwch fwy













