Dechreuodd Gemau Olympaidd Beijing 2008 mewn modd trawiadol iawn gyda Seremoni Agor wefreiddiol yn stadiwm Nyth yr Aderyn.
Gemau Beijing yn dechrau mor drawiadol
8 Aws 2008
Roedd y seremoni’n cynnwys cymysgedd unigryw o dechnoleg newydd a pherfformio ar raddfa enfawr.
Ar ôl mynychu’r digwyddiad, dywedodd Prif Weithredwr Pwyllgor Trefnu Llundain 2012, Paul Deighton:
‘Roedd pawb yn disgwyl Seremoni Agor ar raddfa epig, ac ni chawsom ein siomi gan Tsieina, ac roedd y diweddglo’n hynod drawiadol.
‘Rydym nawr yn edrych ymlaen at 16 diwrnod o chwaraeon, ac, i ni, 16 diwrnod o ddysgu wrth i ni baratoi ar gyfer Gemau’r Haf nesaf yn Llundain.
Dymunodd lwc dda hefyd i Team GB.













