• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

'Whole lotta love'
24 Aws 2008

Cymerodd bws deulawr coch, tri seiclwr oedd wedi ennill medalau aur, y pêl-droediwr David Beckham a’r cerddorion Jimmy Page a Leona Lewis ran mewn sioe drawiadol i ddynodi trosglwyddo’r faner Olympaidd o Beijing i Lundain.

Gyda tua 1.5 biliwn o bobl yn gwylio o bedwar ban byd, cyflwynodd Llundain y perfformiad wyth munud fel rhan o seremoni gloi Gemau Beijing yn y Stadiwm Cenedlaethol.

Cynlluniwyd y sioe i fod yn ‘gardyn ymweld’ i’r Ddinas Cynnal nesaf ac i wahodd gweddill y byd i ddod i Lundain mewn pedair blynedd.

Roedd y stadiwm yn siglo i gyfeiliant trac sain dirgrynol oedd yn cynnwys trefniant o alawon Prydeinig traddodiadol yn ogystal â roc.

Canodd Leona Lewis o Ddwyrain Llundain glasur Led Zeppelin ‘Whole Lotta Love’, i gyfeiliant y gitarydd chwedlonol Jimmy Page.

Ymunodd dawnswyr o Zoo Nation, CandoCo a’r Tŷ Opera Brenhinol yn y perfformiad. Ychydig cyn y perfformiad rhoddwyd y faner i Faer Llundain, Boris Johnson gan Lywydd y PORh, Jaques Rogge, o flaen torf o 91,000 a miloedd o athletwyr.

Bydd y Maer yn dychwelyd i Lundain gyda’r faner yr wythnos nesaf ac yn ei chwifio y tu allan i Neuadd y Ddinas.

Bydd hi hefyd yn cael ei harddangos heno mewn dathliad yn Beijing ar gyfer athletwyr, trefnwyr, uwch wleidyddion yn cynnwys Y Prif Weinidog Gordon Brown, gwylwyr a’r cyfryngau.