• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Y Stadiwm Olympaidd yn edrych yn dda
26 Aws 2008

Mae lluniau newydd a gyhoeddwyd gan yr Olympic Delivery Authority (ODA) yn dangos bod strwythur y Stadiwm Olympaidd yn dechrau siapio.

Mae mwy na 100 o golofnau eisoes wedi cael eu gwneud i gynnal podiwm eisteddleoedd gorllewinol a deheuol y Stadiwm. Mae hyn hefyd yn ffurfio llawr isaf un Eisteddle’r Gorllewin, lle bydd ystafelloedd newid yr athletwyr a chyfleusterau eraill cefn tŷ megis rheoli cyffuriau ac ystafelloedd rhoi triniaeth.

Mae sylfaeni’r stadiwm bron a chael eu cwblhau hefyd, gyda mwy na 3,500 o’r 4,000 postyn parhaol wedi cael eu gosod yn y ddaear.

I’r de o leoliad y Stadiwm mae 200 o gyneilyddion concrit yn cael eu gwneud. Bydd y rhain yn cynnal y 25,000 o seddau parhaol ar lefel isaf y Stadiwm.

Gwneir gwaith hefyd ar gyneilyddion un o’r pum pont sy’n croesi’r dyfrffyrdd o gwmpas yr ynys sy’n lleoliad i’r Stadiwm. Yn ystod y Gemau, y bont hon fydd un o’r prif ffyrdd i wylwyr gyrraedd y Stadiwm.