Daeth dros 200,000 o bobl at ei gilydd mewn lleoliadau o gwmpas y DU i ddynodi'r adeg y trosglwyddwyd y Gemau o Beijing i Lundain.
Y DU un uno i ddathlu'r Trosglwyddo Olympaidd
25 Aws 2008
Bu i hyd at 40,000 o bobl fwynhau Parti Llundain 2012 Visa ar y Mall gyda gwledd o artistiaid blaenllaw yn cynnwys Heather Small, The Feeling, Katherine Jenkins ac Il Divo yn perfformio caneuon wedi eu hysbrydoli gan y Gemau.
Ymysg y rhai oedd yn dathlu ar y llwyfan hefyd roedd enillwyr medalau Olympaidd Beijing, Michael Phelps, Bradley Wiggins and Phillips Idowu.
Darlledwyd y Seremoni Drosglwyddo yn Beijing a’r parti ar y Mall yn fyw ar sgriniau anferth mewn mwy na 30 o leoliadau o gwmpas y DU. Ymysg y rhai ddaeth at ei gilydd i wylio roedd yna 20,000 o bobl yng Nghaerdydd, 15,000 yn Weymouth, 6,000 yn Glasgow, 30,000 yn Lerpwl a 10,000 yn Belfast. Roedd miliynau mwy yn gwylio a gwrando ar BBC One a Radio 2.
Am y tro cyntaf yn hanes y Gemau, codwyd gyda balchder Faneri Trosglwyddo arbennig mewn dros 600 o fannau o gwmpas y DU ac yn rhyngwladol, o Lands End i John O’Groats, ac mewn mannau symbolaidd megis mynydd uchaf Lloegr, Scafell Pike, Stonehenge a Paddiwack Yacht ar Ynys Wyth.
Cafwyd digwyddiadau eraill yn cynnwys arddangosfeydd chwaraeon a chelfyddydol, o garnifal yn Coventry i ddigwyddiadau ‘Canu Cenedl’.
Dywedodd Syr Keith Mills, Is-gadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain 2012:
‘Mae llygaid y byd wedi bod ar Beijing yn ystod y pythefnos diwethaf wrth iddynt gynnal un o’r Gemau Olympaidd mwyaf ysblennydd a dyrchafol erioed, ac am hynny rydym yn eu llongyfarch. Ond am gyfnod byr heddiw, bu’r byd yn oedi i feddwl am yr hyn sydd i ddod nesaf. Rhoesom groeso iddyn nhw, dangosom ein brwdfrydedd, ac fel cenedl a wefreiddiwyd gan y perfformiad mwyaf llwyddiannus gan Team GB mewn 100 mlynedd, roeddem wedi ein huno mewn dathlu. Roedd heddiw’n ddiwrnod gwirioneddol hanesyddol, a hoffai Llundain 2012 ddiolch i’r cymunedau a gymerodd ran yn y dathliadau yn y Safleoedd Byw ac i’r 400 o leoliadau o un pen i’r wlad i’r llall a gododd Faner Drosglwyddo ac a ddangosodd eu cefnogaeth wrth i ni gymryd y camau cyntaf ar y daith odidod, heriol a phwysig hon tuag at Gemau Olympaidd Llundain 2012.’













